Mater - cyfarfodydd

Local Government & Elections (Wales) Bill

Cyfarfod: 26/01/2021 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 53)

53 Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) pdf icon PDF 143 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Bil Llywodraeth Ledol ac Etholiadau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  Dywedodd fod y Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol ac ei fod bellach yn Ddeddf.  Pwrpas yr adroddiad oedd amlygu cynnwys allweddol y Ddeddf ac i’r Cyngor nodi’r goblygiadau cyfansoddiadol (diwygiad etholiadol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) a chyfranogiad y cyhoedd, er enghraifft) a goblygiadau eraill (creu Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu er enghraifft) a’r cynlluniau mewnol ar gyfer gweithredu.  Dywedodd y Prif Weithredwr, er bod rhai o’r newidiadau yn rhai a oedd i’w gwneud yn syth nid oedd amserlen eto i Lywodraeth Cymru gyflwyno newidiadau eraill.Darparodd ddiweddariad bras ar y CBC a dywedodd fod ymateb yr Awdurdod ynghlwm wrth yr adroddiad, a diwygiad etholiadol a gofynnodd i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) gyflwyno’r adroddiad.

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod rhaid i’r Awdurdod, yn ddarostyngedig i ddechrau, weithredu’r Ddeddf yn y ffordd orau bosib’ i weddu amgylchiadau lleol. Adroddodd ar feysydd allweddol y Ddeddf, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a oedd yn gofyn bod y Cyngor yn gwneud penderfyniad, ac a fyddai’n effeithio ar aelodau’n uniongyrchol neu’n berthnasol i’w rôl strategol. Esboniodd y Prif Swyddog ei fod wedi sefydlu gweithgor i drefnu cynllun gweithredu ar gyfer y Ddeddf a fyddai’n cyflwyno adroddiadau cyfnodol ar gynnydd i aelodau.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad gyda’r diwygiad bod y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau bellach yn Ddeddf. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod yn croesawu’r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf o ran yr etholfraint a oedd yn galluogi unigolion 16 ac 17 mlwydd oed i bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd ac etholiadau Cyngor Sir a Chymuned/Tref ym mis Mai 2022, a gwella hygyrchedd y cyhoedd i gyfarfodydd llywodraeth leol. Mynegodd y Cynghorydd Roberts bryderon yngl?n â’r trefniadau craffu ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) a, gan gyfeirio at greu Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, mynegodd bryder na fyddai Aelod yn cadeirio’r Pwyllgor ac fe wnaeth sylw ar ddylanwad cynyddol aelodau lleyg.     

 

Eiliodd y Cynghorydd Thomas yr argymhellion.  Dywedodd ei bod hefyd wedi mynegi pryderon yngl?n â chreu CBC a chyfeiriodd at ymateb yr Awdurdod i ddogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar CBC a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Cytunodd y Cynghorydd Chris Bithell gyda’r safbwynt a fynegwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu a mynegodd bryderon pellach yngl?n â’r dewis i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol yn y dyfodol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryderon yngl?n â chreu CBC a threfniadau craffu.  Gan gyfeirio at ystyriaeth flaenorol ar CBC, gofynnodd a oedd unrhyw ymgynghoriadau pellach wedi cael eu cynnal rhwng 28 Ionawr 2020 a 18 Tachwedd 2020 ac a oedd dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar CBC, a ystyriwyd gan y Cabinet ar 15 Rhagfyr 2020, o unrhyw werth os oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud penderfyniad i basio’r Bil ar 18 Tachwedd. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylw ar ehangu’r etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 mlwydd oed a dinasyddion tramor o dan  ...  view the full Cofnodion text for item 53