Mater - cyfarfodydd
Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 8)
Cyfarfod: 19/01/2021 - Cabinet (eitem 82)
82 Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 8) PDF 119 KB
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2020/21 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 8), eitem 82 PDF 93 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 8), eitem 82 PDF 162 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 8), eitem 82 PDF 83 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 8), eitem 82 PDF 45 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 8), eitem 82 PDF 77 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 8)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth fanwl ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer y flwyddyn ariannol, ac yn cyflwyno’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol erbyn Mis 8. Roedd yr adroddiad yn rhagdybio beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid. Roedd hefyd yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ar gyhoeddiadau Cyllid Grant at Argyfwng Llywodraeth Cymru.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw trwy gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
- Diffyg gweithredol o £0.270 miliwn (heb gynnwys effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn), a oedd yn newid ffafriol o £0.466 miliwn ers ffigwr y diffyg o £0.196 miliwn a adroddwyd ym mis 7.
- Rhagwelwyd y byddai balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.685 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelwyd y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £1.590 miliwn yn is na’r gyllideb.
- Rhagwelwyd y byddai balans terfynol ar 31 Mawrth o £3.763 miliwn.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y sefyllfa a ragwelwyd, y sefyllfa a ragwelwyd yn ôl portffolio, newidiadau sylweddol ers mis 7, risgiau agored, risgiau newydd a oedd yn dod i’r amlwg, cyflawni arbedion yn ystod y flwyddyn a chronfeydd wrth gefn a balansau.
Adroddodd y Prif Weithredwr ar y sefyllfa gadarnhaol diwedd y flwyddyn a ragwelwyd a fyddai'n cael ei chyflawni drwy ddisgyblaeth reoli a gwaith creadigol o fewn gwasanaethau fel digartrefedd er mwyn osgoi beichiau costau.
Mewn ymateb i sylwadau ar leoliadau Gwasanaethau Plant y Tu Allan i'r Sir, dywedodd y Prif Weithredwr fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi penderfynu cefnogi ceisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. Awgrymwyd bod y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn asesu tueddiadau mewn gorwariant yn y maes hwn ledled Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer
Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.