Mater - cyfarfodydd
Housing Strategy Update
Cyfarfod: 20/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 35)
35 Diweddariad Strategaeth Tai PDF 101 KB
Pwrpas: I ddarparu diweddariad ar y Strategaeth Tai.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Summary of action plan, eitem 35 PDF 214 KB
- Enc. 2 - Housing Strategy Action Plan Progress, eitem 35 PDF 167 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Diweddariad Strategaeth Tai
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad cynnydd o ran cyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Tai Lleol 2019-24.
Er gwaethaf y sefyllfa argyfyngus, gwnaethpwyd cynnydd da. Mae blaenoriaethau allweddol yn y cynllun gweithredu wedi eu cyflawni. Bydd diweddariadau pellach yn parhau i gael eu rhannu gyda'r Pwyllgor.
O dan arweiniad y Cadeirydd, bu cydnabyddiaeth i'r Rheolwr Rhaglenni Tai, Mel Evans, sydd ar fin gadael y Cyngor. Cafodd ei ganmol gan y Prif Swyddog am ei ymroddiad a'i ymrwymiad i'w waith dros y blynyddoedd.
Cynigiwyd ac eiliwyd i gefnogi’r argymhelliad gan y Cynghorydd Davies a’r Cynghorydd Rush.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi'r cynnydd a wnaed fel rhan o Gynllun Gweithredu'r Strategaeth Dai, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.