Mater - cyfarfodydd

Community Safety Partnership Annual Report

Cyfarfod: 11/02/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 57)

57 Adroddiad Blynyddol Y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf icon PDF 103 KB

Pwrpas:        I dderbyn Adroddiad Blynyddol Y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a oedd yn rhoi trosolwg o weithgareddau’r 12 mis diwethaf. Yn dilyn newidiadau i drefniadau llywodraethu, roedd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dan nawdd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus bellach ac roedd yn cyflawni ei dyletswyddau trwy’r Bwrdd ‘Mae Pobl yn Ddiogel’. Roedd gwaith y Bwrdd wedi’i ategu trwy weithredu cynllun cyflenwi lleol.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwarchod y Gymuned a Busnes gyflwyniad a oedd yn cwmpasu:

 

·         Cyd-destun

·         Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol

·         Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2020/21

·         Trosedd ac Anhrefn – sefyllfa bresennol (o’i chymharu â’r flwyddyn flaenorol)

·         Partneriaethau Rhanbarthol

 

Wrth groesawu’r adroddiad a’r cyflwyniad, cynigiodd y Cynghorydd Heesom yr argymhelliad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones y byddai cynnwys niferoedd gyda chanrannau ar newidiadau o ran tueddiadau yn helpu i ddarparu cyd-destun. Cytunodd y swyddogion i rannu’r wybodaeth hon ar ôl y cyfarfod.

 

Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Dunbobbin dywedodd y Prif Weithredwr fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol yn dal i fod yn flaenoriaeth a bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir y Fflint yn cael ei gydnabod fel cyflawnydd cryf.  Rhoddodd eglurhad am atebolrwydd a threfniadau adrodd.

 

Wrth gynrychioli’r Bwrdd Cynllunio Ardal, rhoddodd Paul Firth sicrwydd am gamau gweithredu sy’n cael eu cymryd i gefnogi’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar feysydd blaenoriaeth fel trais domestig a throseddau sy’n gysylltiedig ag alcohol/cyffuriau.

 

Wrth ateb cwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, rhoddodd y Prif Arolygydd Siobhan Edwards wybodaeth am y Gr?p Cydlyniant Cymunedol a oedd wedi’i sefydlu i ddeall materion cymunedol ar ddechrau’r sefyllfa frys ar draws Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bibby i swyddogion am eu gwaith ac ymgysylltu â'r gymuned, yn enwedig y gr?p amlasiantaeth ‘Visible and Vulnerable’. Diolchodd i’r Swyddog Diogelwch Cymunedol a oedd newydd ei benodi hefyd am ei gymorth ar faterion sy’n ymwneud â’r ward.

 

Fel Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, siaradodd y Cynghorydd Bithell am bwysigrwydd dull amlasiantaeth i fynd i’r afael â meysydd blaenoriaeth a hyrwyddo diogelwch mewn cymunedau.

 

Ar ôl cael ei gynnig eisoes, cafodd yr argymhelliad ei eilio gan y Cynghorydd Bibby.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi cynnwys yr adroddiad.