Mater - cyfarfodydd

Update on the Mold to Broughton Cycle Scheme and the Development of the County’s Core Cycle Network

Cyfarfod: 08/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 26)

26 Diweddariad ar Gynllun Beicio yr Wyddgrug i Frychdyn a Datblygu Rhwydwaith Beicio Craidd y Sir pdf icon PDF 120 KB

Pwrpas:        I dderbyn diweddariad ar gynnydd. (Craffu i wedi gwneud cais am Adroddiad)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Rheolwr Trafnidiaeth mai amcan cychwynnol yr adroddiad oedd rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar Gynllun y Llwybr Beicau o’r Wyddgrug i Frychdyn, fodd bynnag, oherwydd y diddordeb a fynegwyd yn ystod y cyfnod Craffu ar ddyheadau Teithio Llesol strategol ehangach y Cyngor, ehangwyd ar yr adroddiad i gynnwys diweddariad ar gynnydd a wnaed i ddatblygu Rhwydwaith Llwybrau Beiciau ‘craidd’ y Sir. Cyfeiriodd hefyd at y cyfle i ehangu cylch gorchwyl Cynllun Llwybr Beicau yr Wyddgrug i Frychdyn i gynnwys Caer fel pen draw’r daith ac i ofyn am gefnogaeth y Pwyllgor i gyflwyno cais i ailfrandio’r cynllun a’i alw yn ‘Cynllun Llwybr Strategol yr Wyddgrug i Gaer’ fel cais Teithio Llesol Strategol i Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trafnidiaeth wybodaeth gefndir a rhoddodd drosolwg byr o’r rhwydwaith llwybrau beiciau cenedlaethol a diweddariad ar gynllun beicio’r Wyddgrug. Esboniodd fod datblygu rhwydwaith beicio strategol fel yr amlinellir yn gwneud teithio llesol yn ddewis ymarferol a oedd yn galluogi pobl i deithio i’w gwaith, a chael mynediad at gyfleusterau hamdden a thwristiaeth, nid yn unig yn y Sir ond yn Lloegr hefyd. Ategodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) y sylwadau a fynegwyd gan y Rheolwr Trafnidiaeth o ran y cyfleoedd a ddaw yn sgil datblygu rhwydwaith beicio cenedlaethol a dywedodd mai’r gobaith oedd y byddai’n dod mor gyfarwydd ac yn cael ei ddefnyddio i’r un graddau â’r map ffordd yn Sir y Fflint.

 

Mynegodd y Cynghorydd George Hardcastle bryderon yngl?n â thorri coed yn ardal Aston Hill. Hefyd, mynegodd ei bryderon nad oedd unrhyw rwystrau i amddiffyn defnyddwyr y llwybr beiciau ar Aston Hill. Roedd y Prif Swyddog yn derbyn y pryderon a fynegwyd a dywedodd y byddai’n siarad yn uniongyrchol gyda’r Asiantaeth Cefnffyrdd i sicrhau bod yr un broses ymgynghorol yn cael ei dilyn â’r un a ddilynwyd gan yr Awdurdod.  

 

Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i’r swyddogion am eu gwaith ar y strategaeth drafnidiaeth. Roedd yn cytuno â’r safbwyntiau a fynegwyd gan y  Cynghorydd Hardcastle ar yr angen i’r Asiantaeth Cefnffyrdd ymgynghori’n llawn.

 

Hefyd, mynegodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson ei ddiolchiadau i swyddogion am eu gwaith caled ar Rwydwaith Llwybrau Beiciau Craidd y Sir, a dywedodd hefyd ei fod am gydnabod cymorth a chydweithrediad Alistair Stubbs, Pennaeth Ysgol Uwchradd Elfed, ar y cyngion ar gyfer datblygu. Mynegodd y Cynghorydd Hutchinson bryderon yngl?n â phriffordd leol yn ei Ward. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pwyntiau a wnaed a dywedodd y byddai’n rhoi ymateb mwy manwl i’r Cynghorydd Hutchinson yn dilyn y cyfarfod ar y cynigion ar gyfer creu llwybr cyswllt o Fwcle at lwybr beicio dynodedig ar y ffordd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at y Llwybrau Beiciau Cyswllt Strategol rhwng yr Wyddgrug a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a gofynnodd am eglurder o ran sut byddai’n bosibl cael mynediad ar draws Pont Sir y Fflint os mai dyma’r llwybr bwriedig. Siaradodd o blaid y cynigion lleol pellach a oedd yn cael eu croesawu. Rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar y broses ymgynghori  ...  view the full Cofnodion text for item 26