Mater - cyfarfodydd

Strategic Housing and Regeneration Programme - Community Benefits

Cyfarfod: 16/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 22)

22 Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol - buddion cymunedol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar Fudd Cymunedol yn cael ei ddarparu trwy’r Rhaglen SHARP.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Angie Eardley, Rheolwr Buddsoddiad Cymunedol, Wates Construction Limited i’r cyfarfod a rhoddodd gyflwyniad manwl ar y canlynol:-

 

  • Cyllid Cymunedol a Chyflogaeth a Sgiliau Lleol; Wythnosau hyfforddi ar y safle;
  • Creu swyddi;
  • Cefnogaeth i geiswyr gwaith lleol drwy dîm Cymunedau am Waith Sir y Fflint;
  • Rhoddion cymunedol drwy Wates Family Enterprise Trust a chodi arian yn lleol; a
  • Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr a Chwrdd â’r Fenter Gymdeithasol i dyfu cwmnïau lleol.

 

Cafodd Wates ganmoliaeth gan y Cadeirydd am eu cymorth a’u cefnogaeth o ran hyfforddiant ar y safle a chefnogaeth gymunedol leol.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ray Hughes a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi cynnwys Crynodeb Perfformiad Buddion Cymunedol a gynhyrchwyd gan Wates ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020.