Mater - cyfarfodydd
Strategic Housing and Regeneration Programme - Community Benefits
Cyfarfod: 16/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 22)
22 Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol - buddion cymunedol PDF 80 KB
Pwrpas: Darparu gwybodaeth ar Fudd Cymunedol yn cael ei ddarparu trwy’r Rhaglen SHARP.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Community Benefits Performance Summary, eitem 22 PDF 11 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol - buddion cymunedol
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd Angie Eardley, Rheolwr Buddsoddiad Cymunedol, Wates Construction Limited i’r cyfarfod a rhoddodd gyflwyniad manwl ar y canlynol:-
- Cyllid Cymunedol a Chyflogaeth a Sgiliau Lleol; Wythnosau hyfforddi ar y safle;
- Creu swyddi;
- Cefnogaeth i geiswyr gwaith lleol drwy dîm Cymunedau am Waith Sir y Fflint;
- Rhoddion cymunedol drwy Wates Family Enterprise Trust a chodi arian yn lleol; a
- Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwr a Chwrdd â’r Fenter Gymdeithasol i dyfu cwmnïau lleol.
Cafodd Wates ganmoliaeth gan y Cadeirydd am eu cymorth a’u cefnogaeth o ran hyfforddiant ar y safle a chefnogaeth gymunedol leol.
Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ray Hughes a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi cynnwys Crynodeb Perfformiad Buddion Cymunedol a gynhyrchwyd gan Wates ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020.