Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )

Cyfarfod: 06/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 13)

13 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 83 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Tynnodd sylw at daith rithiol o amgylch Parc Adfer a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod ar 12 Hydref, a gofynnodd i’r Aelodau gysylltu â hi gydag unrhyw awgrymiadau am eitemau yr hoffen nhw eu cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu a gododd o’r cyfarfodydd blaenorol. Dywedodd fod rhai camau gweithredu heb eu cwblhau hyd yma gan eu bod yn faterion hirdymor a byddai diweddariad yn cael ei roi ynghylch cynnydd ar y materion hyn. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.