Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking
Cyfarfod: 08/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 5)
5 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 83 KB
Pwrpas: I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Forward Work Programme, eitem 5 PDF 63 KB
- Enc. 2 - Action Tracking, eitem 5 PDF 59 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol a byddai'n cysylltu â'r Cadeirydd a'r Prif Swyddogion ar eitemau a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf er mwyn darparu ar gyfer Adroddiad Blynyddol Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Tynnwyd sylw aelodau at y sesiwn friffio ar ailgylchu a gynhelir yn ddiweddarach ar yr un dyddiad.
Dywedodd y Prif Weithredwr yn ogystal ag Aelodau'n cyflwyno eitemau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol, y byddai'r Pwyllgor Adferiad newydd yn cynorthwyo Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu trwy nodi pynciau a meysydd risg i'w hystyried, i helpu gyda'r cam adfer.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr David Evans a Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.