Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (Env &E )

Cyfarfod: 12/05/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 54)

54 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 83 KB

I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.  

 

Dywedodd y byddai diweddariad ar y Cynllun Trafnidiaeth Integredig a Newid yn yr Hinsawdd yn cael ei roi ar y rhaglen pan fo’n briodol a thynnodd sylw at yr eitemau eraill oedd wedi eu rhestru i’w hystyried mewn cyfarfodydd yn y dyfodol. Gofynnodd i’r Aelodau anfon unrhyw awgrymiadau ati hi o ran yr eitemau yr oeddent eisiau eu cynnwys ar y Rhaglen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chris Dolphin am i eitem ar Farchnadoedd Canol Tref gael eu cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.  Gofynnodd hefyd am i eitem ar Gynllunio a Gorfodi oedd i fod i gael ei hystyried gan y Pwyllgor mewn cyfarfod ym mis Tachwedd 2021 gael ei dwyn ymlaen fel mater brys.   Cytunwyd y byddai’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yn trafod cwmpas a phwrpas yr eitem â’r Cynghorydd Dolphin ynghyd ag unrhyw bryderon, yn dilyn y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at y camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol a oedd wedi eu cwblhau a gofynnodd i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) roi diweddariad ar gasgliadau a fethwyd dros y penwythnos. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai e-bost yn cael ei anfon at bob Aelod ar y manylion cyswllt. 

 

Canmolodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson y Prif Swyddog a’i dîm am y gwasanaeth a oedd wedi bod yn rhagorol yn gyffredinol meddai. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Chris Bithell am ddiweddariad ar Gronfa yr Ardoll Agregau. Dywedodd yr Hwylusydd na chafwyd ymateb hyd yma i’r llythyr a anfonwyd at Lywodraeth Cymru ar ran y Pwyllgor yn gofyn am adfer y gronfa.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn cael awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill.