Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (EY&C)
Cyfarfod: 01/07/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 8)
8 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Draft Forward Work Programme, eitem 8 PDF 65 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 8 PDF 53 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r adroddiad a chadarnhaodd fod dyddiadau'r holl gyfarfodydd wedi'u cynnwys yn Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Mai. Mae’r adroddiadau rheolaidd ac eitem ychwanegol ar gyfer mis Medi ar y Gwasanaeth Archif wedi’u hychwanegu a chadarnhaodd y bydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol yn cael ei llenwi cyn cyfarfod mis Medi.Bydd eitem ar Addysg Gartref, a awgrymwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey, hefyd yn cael ei chynnwys a dywedodd fod modd i aelodau ychwanegu eitemau eraill at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol drwy gysylltu â hi.Mae’r holl gamau gweithredu yn yr adroddiad Olrhain Camau Gweithredu wedi’u cwblhau.
Cafodd yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Bob Connah.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi cynnydd y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.