Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (EY&C)
Cyfarfod: 18/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 42)
42 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 42 PDF 72 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Education Youth & Culture OSC, eitem 42 PDF 52 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad yn cadarnhau mai cyfarfod nesaf y Pwyllgor fydd y cyfarfod ar y cyd gyda Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gynhelir ar 17 Mehefin. Cynhelir cyfarfod arferol nesaf y Pwyllgor ar 1 Gorffennaf pan roddir cyflwyniad am Adroddiad Blynyddol GwE am y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch ar y We. Roedd yr holl gamau gweithredu a gododd o’r cyfarfodydd blaenorol wedi eu cwblhau.
Gwnaeth yr Hwylusydd hefyd atgoffa Aelodau am y sesiynau briffio y Tu Allan i’r Sir a drefnwyd ar gyfer yr holl Aelodau a’r Aelodau cyfetholedig ar 22 Mawrth.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Paul Cunningham a Mrs Lynne Bartlett.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.