Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (CH & E)
Cyfarfod: 16/06/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 5)
5 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 5 PDF 72 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 5 PDF 50 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Hysbysodd yr Hwylusydd y Pwyllgor bod dyddiadau cyfarfodydd y dyfodol wedi eu hychwanegu at y rhaglen gwaith i’r dyfodol, yn dilyn cymeradwyaeth mewn cyfarfod blynyddol o’r Cyngor Sir. Awgrymwyd bod yr Hwylusydd yn cysylltu â’r Cadeirydd a’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i lenwi’r rhaglen gwaith i’r dyfodol, a gyflwynir i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.
Roedd yna un cam gweithredu wedi codi o’r cyfarfod blaenorol. Roedd yr Hwylusydd wedi gofyn am wybodaeth gan swyddogion perthnasol a byddai’n dosbarthu’r wybodaeth hon ar ôl ei derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y cynnydd a wnaed gyda’r camau gweithredu heb eu cwblhau yn cael ei nodi.