Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (CH & E)
Cyfarfod: 10/03/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 47)
47 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 47 PDF 66 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Community Housing & Assets OSC, eitem 47 PDF 50 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Flaenraglen Waith bresennol. Cyfeiriodd at yr eitemau a restrwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor fydd yn cael ei gynnal ar 19 Mai 2021 gan egluro y byddid yn adrodd ar yr eitem ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol, y rhestrwyd ar gyfer ei ystyried, i gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn hytrach. Nid oedd unrhyw newidiadau eraill i’r Flaenraglen Waith fel yr adroddwyd ar hynny yn y cyfarfod diwethaf. Dywedodd bod gwaith yn mynd rhagddo ar amserlennu cyfarfodydd o Fedi 2021 ymlaen ac y byddid yn cyflwyno dyddiadur drafft i gyfarfod blynyddol y Cyngor Sir ar 11 Mai ar gyfer ei gymeradwyo.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr adroddiad tracio gweithgareddau a atodwyd i’r adroddiad. Dywedodd bod y gweithgaredd unigol a gododd o’r cyfarfod diwethaf wedi cael ei gwblhau ac yr ychwanegwyd diweddariad ar y System Rhestrydd Adnoddau Deinamig (DRS) i’r Blaengynllun Gwaith fel eitem i’w ystyried gan y Pwyllgor i’r dyfodol.
Awgrymodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad er mwyn darparu manylion ar y broses dyrannu tai i Aelodau. Dywedodd Y Cynghorydd Dave Hughes ei fod wedi gofyn am gyflwyniad ar bolisi SARTH a’r polisi dyrannu er mwyn diweddaru’r holl Aelodau, a rhoddodd sicrwydd y byddai hynny yn digwydd. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Tai ac Atal i ddarparu sesiwn friffio i’r Pwyllgor cyn dechrau cyfarfod yn y dyfodol er mwyn rhoi trosolwg ar sut yr oedd y polisi SARTH yn gweithio, a mwy o eglurder ar y broses ddyrannu.
Cynigiwyd yr argymhellion ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorwyd Ron Davies a Dennis Hutchinson
PENDERFYNWYD:
(A) Nodi’r Blaenraglen Waith;
(B) Awdurdodi’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Blaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, fel bo’r angen yn codi; a
(C) Nodi’r cynnydd a wneir o ran cwblhau’r camau sydd ar ôl i’w cwblhau.