Mater - cyfarfodydd

Emergency Situation Briefing (Verbal)

Cyfarfod: 17/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 22)

Briffio Ynghylch Sefyllfa Frys (Llafar)

Rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf a’r risgiau a’r goblygiadau i Sir y Fflint a pharhad busnes a gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y Nodyn Briffio yr oedd wedi’i ddosbarthu i’r Aelodau yn gynharach yn yr wythnos a chytunodd y dylid ei anfon at aelodau nad oedd yn gynghorwyr ynghyd â’r diweddariad gan Betsi Cadwaladr am y Rhaglen Frechu a dogfen Llywodraeth Cymru “Cynllun Rheoli Coronafeirws - Lefelau Rhybudd yng Nghymru” a gyhoeddwyd yn dilyn Datganiad y Prif Weinidog.  Cyfeiriodd at weithrediad a chyflymder y cyfyngiadau lefel 4 newydd roedd y Prif Weinidog wedi’u cyhoeddi yn gynharach yn yr wythnos oedd yn cynnwys rhestr glir o wasanaethau oedd yn cael aros ar agor.  Fe soniodd am y cynllun peilot addawol ar gyfer brechlyn Pfizer mewn cartref gofal lleol yn New Brighton, ac roedd hyn yn gam cadarnhaol ymlaen.

 

Fe soniodd y Prif Weithredwr am y sylw helaeth yn y wasg am y gwahaniaeth mawr wrth adrodd ffigurau haint Cymru a thrafodaeth a gynhaliwyd gyda’r Arweinydd er mwyn asesu’r effaith ar Sir y Fflint.  Roedd cyfraddau’r achosion eisoes yn y system ac ar y cyfan, nid oedd y niferoedd wedi cynyddu’n sylweddol. Pan fyddai’r holl wybodaeth am achosion oedd heb eu cyfeirio yn cael eu casglu fe fyddai yna ddealltwriaeth gwell o’r darlun cyffredinol, a’r gobaith yw na fyddai achosion Sir y Fflint yn codi wrth i ni gychwyn ar gyfnod y Nadolig.

 

                Dywedodd Arweinydd y Cyngor bod y sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol ac fe soniodd am gynhadledd dros y ffôn roedd o wedi ei mynychu gyda’r Prif Swyddog a holl Benaethiaid ysgolion y sir yngl?n ag ail agor ysgolion ym mis Ionawr 2021. Fe soniodd hefyd am drafodaethau gyda’r Gweinidog Addysg ac uwch Weinidogion eraill yn Llywodraeth Cymru yngl?n â disgyblion yn dychwelyd ym mis Ionawr. 

 

        Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod LlC wedi rhoi hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol mewn cysylltiad â dechrau’r tymor newydd ond rhoddodd sicrwydd i’r Pwyllgor bod yr ysgolion ar agor, ond oherwydd effaith ac ymlediad y feirws dros gyfnod y Nadolig, fe allai’r dull o gyflwyno addysg newid.  Fe gadarnhaodd y byddai’r Cyngor yn argymell y dylai pob ysgol gyflwyno dysgu ar-lein ar gyfer wythnos cyntaf y tymor newydd gyda chyn lleied o ddisgyblion â phosibl yn mynd mewn i’r adeilad, ond byddai dal angen darpariaeth ar gyfer plant diamddiffyn a phlant a phobl ifanc gweithwyr allweddol. Roedd LlC wedi gofyn bod dysgu wyneb yn wyneb yn cychwyn ar 18 Ionawr, ond roedd y sefyllfa’n newid yn gyson a byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda Phenaethiaid a Swyddogion ar ôl cyfnod y Nadolig er mwyn edrych ar y cyngor, data ac effaith ar ysgolion er mwyn asesu a oedd hi’n bosibl i ddychwelyd i’r ysgol neu barhau gyda dull dysgu cyfunol. Roedd Penaethiaid yn cefnogi’r dull yma, ond roeddynt eisiau sicrhau bod rhieni’n cael gwybod cyn gynted â phosibl a bod yr holl drefniadau yn eu lle.

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cefnogaeth ar gyfer plant diamddiffyn a phlant gweithwyr allweddol yn cael ei ddarparu o fewn y ganolfan a dywedodd bod yr effaith ar rieni sy’n gweithio  ...  view the full Cofnodion text for item 22