Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (S & H)
Cyfarfod: 21/01/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 25)
25 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB
I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (S & H), eitem 25 PDF 81 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (S & H), eitem 25 PDF 57 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Flaenraglen Waith bresennol i’w hystyried. Cyfeiriodd at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol ac estynnodd wahoddiad i’r aelodau godi unrhyw eitem i’w hystyried i’w cynnwys yn y blaenraglen waith.
Gan gyfeirio at yr adroddiad olrhain camau gweithredu a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad, dywedodd Yr Hwylusydd nad oedd unrhyw gamau gweithredu i’w cwblhau o’r cyfarfodydd blaenorol.
Awgrymodd y Cynghorydd Carol Ellis y dylid rhoi diweddariad ar y broses frechu. Dywedodd y Cadeirydd bod neges e-bost wedi’i dosbarthu gan y Prif Weithredwr gyda’r strategaeth frechu yn atodiad, a oedd yn cynnwys llawer o wybodaeth. Dylid cyfeirio cwestiynau allweddol am y broses frechu at y Prif Weithredwr drwy e-bost.
Gofynnodd y Cynghorydd Cindy Hinds i’r Pwyllgor ystyried adroddiad ar anabledd a gwahaniaethu. Dywedodd y Prif Swyddog mai’r Cynghorydd Polisi Strategol oedd y swyddog a oedd yn arwain y maes gwaith hwn am ei fod yn fater corfforol. Byddai ymholiadau pellach yn cael eu gwneud i ganfod sut y gellid ymateb i’r cais hwn.
PENDERFYNIAD:
(a) I nodi’r Blaenraglen Waith;
(b) Y byddai’r Hwylusydd, mewn cydweithrediad â Chadeirydd y Pwyllgor yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Blaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, wrth i’r angen godi;
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed yn cwblhau’r camau gweithredu i’w cwblhau.