Mater - cyfarfodydd
Medium Term Financial Strategy and Annual Budget 2021/22
Cyfarfod: 15/12/2020 - Cabinet (eitem 57)
57 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 PDF 116 KB
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ar sefyllfa ddiweddaraf Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 yn dilyn y rownd ddiweddaraf o Bwyllgorau Craffu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Council Fund Revenue Budget 2021/22, eitem 57 PDF 429 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn rhoi amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2021/22 cyn y broses ffurfiol i osod y gyllideb. Roedd hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol genedlaethol.
Roedd yr adroddiad yn ailosod strategaeth datrysiadau’r gyllideb, a oedd yn dibynnu’n fawr ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol ac nid oedd newidiadau ers y llynedd.
Ymgynghorwyd â phob un o’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr amcangyfrif a’r strategaeth ar gyfer y gyllideb trwy gydol mis Tachwedd, yn enwedig ar y pwysau o ran costau a oedd wedi’u cynnwys yn yr amcangyfrif ar gyfer eu portffolios nhw. Fe wnaeth y Pwyllgorau, fel un, y canlynol:
· Cefnogi’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb;
· Nodi a chefnogi’r pwysau o ran costau mewn portffolios unigol;
· Cefnogi disgwyliadau’r Llywodraethau o ran cyllid cenedlaethol;
· Nodi a derbyn y targed arbedion effeithlonrwydd cyfun o £1-2 miliwn;
· Peidio â chynnig unrhyw opsiynau arbedion eraill i’w hystyried; a
· Chefnogi bwriad y Cyngor ar y polisi trethu lleol h.y. uchafswm o 5% o gynnydd blynyddol i Dreth y Cyngor.
Cyhoeddodd y Canghellor ganlyniad Adolygiad o Wariant y DU ar 25 Tachwedd a’r prif oblygiadau i Gymru oedd:
· £1.3 biliwn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru (LlC) (£770 miliwn i barhau i ariannu’r argyfwng a £560 miliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd);
· Cynnydd i gyflogau’r sector cyhoeddus i gael eu hatal ar wahân i grwpiau gwaith penodol yn y GIG a phob un sy’n ennill llai na £24,000 y flwyddyn; ac
· Isafswm cyflog i gynyddu 2.2% i rai 23 oed a h?n.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y cyfraniad oedd ei angen i ariannu Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y cyfraniad i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a’r amcangyfrifon oedd eu hangen ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol – incwm gwasanaethau cofrestru/ysgolion wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Roedd tri datrysiad ariannu strategol er mwyn mantoli’r gyllideb:
· Cyllid y Llywodraeth (Cyllid Allanol Cyfun);
· Trethi ac incwm lleol; a
· Thrawsnewid ac arbedion effeithlonrwydd i wasanaethau.
Roedd Tabl 2 yn yr adroddiad yn nodi’r senarios i fantoli cyllideb 2021/22 ar yr isafswm angenrheidiol ar gyfer y gyllideb. Amcangyfrifon gros oedd rhai Treth y Cyngor. Byddai angen i unrhyw effaith o’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor fod wedi’i chynnwys fel costau.
Roedd Tabl 3 yn yr adroddiad yn nodi’r amcangyfrif diwygiedig i’r gyllideb, yn cynnwys y pwysau o ran cyllid ysgolion, anghenion dysgu ychwanegol a chronfeydd wrth gefn yn ôl cyfarwyddyd y Cabinet, ac roedd yn dangos lefel y cyllid oedd ei angen gan LlC.
Nodwyd amserlen y gyllideb fel:
15 Rhagfyr 2020 – Cabinet – Strategaeth ac Amcangyfrif o’r Gyllideb
21 Rhagfyr 2020 – Cyllideb Ddrafft LlC
22 Rhagfyr 2020 – Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol
23 Rhagfyr 2020 – Cabinet Arbennig (bore) a Sesiwn Briffio pob Aelod (pnawn)
19 Ionawr 2021 – Cabinet – Adolygiad o’r Gyllideb
16 Chwefror 2021 – Cabinet a’r Cyngor – Gosod y Gyllideb
2 Mawrth 2021 – Cyllideb/Setliad Terfynol LlC
Byddai diweddariad yn cael ... view the full Cofnodion text for item 57