Mater - cyfarfodydd
Theatr Clwyd Alternative Delivery Model (ADM) Final Transfer Due Diligence Report
Cyfarfod: 15/12/2020 - Cabinet (eitem 67)
Adroddiad Diwydrwydd Dyladwy Terfynol ADM Theatr Clwyd
Pwrpas: Derbyn adroddiad llawn a therfynol ar ddiwydrwydd dyladwy unwaith i’r adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a chynnig ffurfiol gan y Bwrdd Cysgodol gael ei dderbyn. Datrys unrhyw faterion cytundeb contract gwasanaeth sy’n weddill a gwneud cais am awdurdod dirprwyedig i gadarnhau’r broses dan gontract os oes angen.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (67/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (67/3)
- Restricted enclosure 4 , View reasons restricted (67/4)
- Restricted enclosure 5 , View reasons restricted (67/5)
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Diwydrwydd Dyladwy Terfynol ADM Theatr Clwyd
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac eglurodd fod y Cabinet wedi cytuno i drosglwyddo Theatr Clwyd i fodel llywodraethu newydd yn rhan o Raglen Model Cyflenwi Amgen y Cyngor. Roedd Theatr Clwyd a’r Gwasanaethau Cerdd i gael eu rheoli gan gwmnïau elusennol annibynnol, wedi’u cyfyngu trwy warant, o 1 Ebrill 2021 ymlaen.
Roedd yr adroddiad yn nodi (1) y trefniadau trosglwyddo, (2) diwydrwydd dyladwy, (3) y contract gwasanaeth drafft a oedd yn cael ei lunio gyda chyngor cyfreithiol a (4) y cynnig gan Theatr Clwyd Trust Ltd i reoli’r Gwasanaethau Theatr a Cherdd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn fodlon â’r trefniadau i drosglwyddo Theatr Clwyd a’r Gwasanaethau Cerdd, a’i fod wedi’i sicrhau bod diwydrwydd dyladwy wedi’i roi;
(b) Derbyn y cynnig i Fwrdd Ymddiriedolaeth newydd ysgwyddo trefniadau rheoli Theatr Clwyd, yn seiliedig ar yr egwyddorion a’r cynigion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad blaenorol i’r Cabinet;
(c) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr i lofnodi cytundeb ffurfiol i wneud trosglwyddiad rhwng y Cyngor a’r Ymddiriedolaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion a’r cynigion sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad blaenorol i’r Cabinet;
(d) Bod trosglwyddiadau Theatr Clwyd, Theatr Clwyd Productions Ltd a’r Gwasanaethau Cerdd i berchnogaeth Theatr Clwyd Trust Ltd yn cael eu gwneud ar 1 Ebrill 2021; a
(e) Chymeradwyo’r raddfa gyflog ddiwygiedig ar gyfer y Gwasanaeth Cerdd.