Mater - cyfarfodydd
Recruitment of Independent Members to the Standards Committee
Cyfarfod: 11/01/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 31)
31 Recriwtio Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau PDF 84 KB
Cytuno ar amserlen a phroses ar gyfer recriwtio Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i gytuno ar amserlen a phroses ar gyfer recriwtio Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau. Roedd y ddwy swydd wag i ddisodli Ken Molyneux oedd wedi ymddiswyddo a Rob Dewey (y Cadeirydd) oedd â’u tymor mewn swydd yn dod i ben.
Ar ôl gofyn am wirfoddolwyr, cytunwyd y byddai’r panel recriwtio yn cynnwys y Cynghorwyr Patrick Heesom a Paul Johnson, Julia Hughes a Mark Morgan, ynghyd â’r lleygwr (Noella Jones). Os na fydd Mark Morgan ar gael, yna gelwir ar Phillipa Earlam.
Byddai’r Cyngor Sir angen cymeradwyo sefydlu’r panel recriwtio yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr, cyn i’r swyddi gwag gael eu hysbysebu. Byddai’r Swyddog Monitro yn cysylltu ag aelodau’r panel i gadarnhau dyddiadau’r cyfweliad oedd yn debyg o gael eu cynnal ym mis Mawrth.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddid ac yn enwebu’r Cynghorwyr Patrick Heesom a Paul Johnson, Julia Hughes a Mark Morgan (neu Phillipa Earlam os nad oedd ar gael) i’r panel penodi arfaethedig.