Mater - cyfarfodydd

Standards Forum & Ethical Liaison Pre-briefing

Cyfarfod: 11/01/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 32)

32 Sesiwn Friffio Cyn y Cyfarfod Cyswllt Moesegol a Fforwm Safonau pdf icon PDF 88 KB

Ceisio safbwyntiau’r Pwyllgor ar faterion i’w codi yng nghyfarfodydd nesaf y Fforwm Safonau Gogledd a Chanolbarth Cymru a’r cyfarfod bob dwy flynedd gyda’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad i ofyn am farn y Pwyllgor ar faterion i’w codi mewn cyfarfodydd i ddod o’r Fforwm Safonau Canolbarth a Gogledd Cymru a’r cyfarfodydd bob dwy flynedd rhwng Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau gyda’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor (a oedd wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa argyfwng).

 

Wrth baratoi ar gyfer y cyfarfod olaf, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried awgrymiadau i’w cyflwyno i’r Arweinwyr Gr?p a fyddai’n helpu’r Pwyllgor i gyflawni ei rôl a diwallu gofynion y ddeddfwriaeth newydd.  Yn ystod trafodaeth, cytunwyd y byddai’r awgrymiadau yn cael eu llywio’n well unwaith y byddai Aelodau Annibynnol wedi cymryd y cyfle i arsylwi cyfarfodydd ffurfiol (fel y trafodwyd yn gynharach ar y rhaglen) ac adrodd yn ôl ar eu canfyddiadau yng nghyfarfod mis Mawrth.

 

Wrth groesawu hyn, roedd Phillipa Earlam yn awgrymu y gallai presenoldeb mewn hyfforddiant fod yn un o’r materion i’w codi.    Dywedodd y Cynghorydd Johnson y gall y Pwyllgor ei hun archwilio’r mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

Fel y gofynnwyd gan Julia Hughes, cytunwyd y byddai’r cyfarfod gyda’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor yn cael ei gynnal i ddechrau i ofyn am eu barn cyn y cyfarfod gyda’r Arweinwyr Gr?p.  Byddai’r Swyddog Monitro yn gwneud y trefniadau angenrheidiol. 

 

Dywedwyd fod cyfarfod nesaf y Fforwm Safonau wedi’i drefnu ar gyfer mis Hydref, i’w gynnal gan Gyngor Sir Powys.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod eitem ar y testunau a awgrymwyd ar gyfer trafodaeth gyda’r Cadeirydd ac Arweinydd y Cyngor yn cael ei ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth, yn dilyn adborth gan yr Aelodau Annibynnol oedd yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor ffurfiol.