Mater - cyfarfodydd

Review Protocol on the Production of Councillor Newsletters

Cyfarfod: 11/01/2021 - Pwyllgor Safonau (eitem 33)

33 Adolygu Protocol Cynhyrchu Newyddlenni Cynghorwyr pdf icon PDF 85 KB

Mae hyn yn rhan o adolygiad treigl o godau a phrotocolau a gynhelir gan y Pwyllgor i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn berthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro yr adroddiad i adolygu’r protocol ar gynhyrchu’r newyddlenni Cynghorydd, oedd yn rhan o adolygiad dreigl o godau a phrotocolau a ymgymerwyd gan y Pwyllgor.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor yn ystod yr adolygiad diwethaf, bod arolwg wedi’i gynnal i sefydlu’r nifer o Gynghorwyr oedd wedi cynhyrchu eu newyddlen eu hunain.

 

Yn ystod trafodaeth am effaith y sefyllfa argyfwng a mwy o ddibyniaeth ar gyfryngau cymdeithasol, roedd Julia Hughes hefyd yn gofyn am gynnal arolwg arall i sefydlu faint o Gynghorwyr oedd wedi cynhyrchu newyddlen yn 2020 a pha un a oedd unrhyw un yn bwriadu gwneud hynny yn 2021 a hefyd pa un a oedd y fethodoleg wedi newid.

 

Cefnogwyd yr awgrym bod arolwg pellach yn cael ei gynnal.    Oherwydd ymrwymiadau llwyth gwaith arall, cytunwyd y byddai canlyniadau’r arolwg hwnnw yn cael ei drefnu ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn hwyrach yn y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nad yw’r protocol presennol yn cael ei newid; a

 

 (b)      Bod adroddiad ar ganlyniadau arolwg pellach o newyddlenni Cynghorydd yn cael ei drefnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn.