Mater - cyfarfodydd

Audit Committee Annual Report

Cyfarfod: 08/12/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 39)

39 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2019/20 a oedd yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r Cyngor i fodloni adroddiad arfer gorau CIPFA sef ‘Pwyllgorau Archwilio - Canllaw Ymarferol ar gyfer Awdurdodau Lleol 2018’, a’r gofyniad i Bwyllgorau Archwilio gael eu dal i gyfrif gan y Cyngor am y gwaith y maent wedi ei wneud.

 

Roedd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio wedi ei gynllunio i roi sicrwydd i’r Cyngor o ran dal y Pwyllgor i gyfrif.  Yn benodol:

 

1.    Cefnogi atebolrwydd y Cyngor i’r cyhoedd a budd-ddeiliaid

-       Cafodd pob cyfarfod gan y Pwyllgor Archwilio ei gynnal yn gyhoeddus gyda holl bapurau’r Pwyllgor ar gael ar wefan y Cyngor.

2.    Cefnogi atebolrwydd o fewn y Cyngor

-       Drwy adolygu’r adroddiadau a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Archwilio, mae’r Pwyllgor yn dal y rhai sy’n gyfrifol am weithredu’r argymhellion a chynlluniau gweithredu i gyfrif.  Yn ychwanegol at hynny, fe oruchwyliodd y Pwyllgor y broses ar gyfer gwerthuso a gwella llywodraethu, risg, rheoli a rheolaeth ariannol.

3.    Dal y Pwyllgor Archwilio i gyfrif

-       Mae’r Pwyllgor wedi gwireddu’r Cylch Gorchwyl y cytunwyd arno ac mae wedi mabwysiadu’r arfer orau a argymhellwyd.

-       Roedd Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio wedi asesu eu hanghenion datblygu eu hunain ac wedi manteisio ar y cyfle i fynychu sesiynau briffio a hyfforddiant;

-       Roedd y Pwyllgor wedi asesu ei effeithiolrwydd ei hun, wedi datblygu cynllun gweithredu ac wedi monitro cynnydd; ac

-       Roedd y Pwyllgor wedi dangos eu bod wedi cael effaith gadarnhaol ar welliant llywodraethu, risg, rheoli a rheolaeth            ariannol o fewn y Cyngor.

 

Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Ionawr yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i Bwyllgorau Archwilio yng Nghymru.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad hwn gan y Cynghorydd Chris Dolphin ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Chris Dolphin drosolwg o’r Adroddiad Blynyddol a chadarnhaodd nad oedd yna unrhyw feysydd o bryder i’w hadrodd i’r Cyngor.  Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r Cynghorydd Dolphin am gadeirio’r Pwyllgor ac am ei natur drylwyr. 

 

Hefyd mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, yr Aelodau a hefyd yr aelodau cyfetholedig am eu cyfraniadau gwerthfawr. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2019/20 yn cael ei gymeradwyo.