Mater - cyfarfodydd

Responsible Investing and Climate Risk

Cyfarfod: 25/11/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 120)

120 Buddsoddi Cyfrifol a Risg Hinsawdd pdf icon PDF 108 KB

I roi cyflwyniad i Aelodau’r Pwyllgor ar fesur ôl troed carbon a dadansoddi risg hinsawdd yn asedau’r gronfa bensiynau, a thrafod y canlyniadau ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

Cofnodion:

            Cyflwynodd Mr Buckland y sesiwn drwy atgoffa’r Pwyllgor pan gytunwyd ar y strategaeth fuddsoddi ddiwygiedig gan y Pwyllgor ym mis Chwefror 2020, cytunwyd hefyd ar bolisi Buddsoddi Cyfrifol ar fformiwla newydd. Ychwanegodd fod y Polisi Buddsoddi Cyfrifol yn cynnwys nifer o feysydd sylw allweddol a’i fod yn cynnwys datganiad am Newid Hinsawdd. Mae’r Gronfa’n cydnabod pwysigrwydd rhoi sylw i’r risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, drwy ei strategaeth fuddsoddi, ac yn cydnabod hynny fel risg ariannol.

 

Mae’r Polisi Buddsoddi Cyfrifol hefyd yn cydnabod nifer o feysydd posibl i roi sylw iddynt, ac felly cytunwyd ar 5 blaenoriaeth strategol ar gyfer y 3 blynedd nesaf (2020-2023). Un o’r blaenoriaethau rheiny oedd gwerthuso a rheoli datguddio carbon. Gwnaeth Mr Buckland sylw i gloi y byddai sesiwn heddiw yn edrych ar ganlyniadau’r ymarfer ôl troed carbon yr oedd Mercer wedi ei wneud ar asedau ecwiti’r Gronfa. Cyn cyflwyno’r canlyniadau byddai Mr Gaston yn dechrau gyda sesiwn addysgiadol, wedi ei chynllunio i gynorthwyo dealltwriaeth y Pwyllgor o’r canlyniadau.

 

Cyflwynodd Mr Gaston o Mercer sesiwn hyfforddi fanwl i helpu dealltwriaeth aelodau’r Pwyllgor o ran ôl troed carbon. Ystyriodd fater Newid Hinsawdd, a chynhesu byd-eang a nododd ar hyn o bryd, fod y byd ar ei ffordd at tua + 3?C o gynhesu cyn diwedd y ganrif, ac felly daeth i’r casgliad fod angen gwneud mwy o waith yn fyd-eang er mwyn bodloni uchelgais Cytundeb Paris. Aeth yn ei flaen i ystyried ymarferoldeb mesur ôl troed carbon, ac edrychodd ar y metrigau y dylid rhoi sylw iddynt, a thrafododd fater allyriadau Cwmpas 1, 2 a 3 a sut y cânt eu hasesu.

 

Aeth Mr Gaston yn ei flaen wedyn i ystyried canlyniadau’r dadansoddiad ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd. I ddechrau cyfeiriodd at fater cynnwys yr holl ddosbarthiadau asedau, a nododd ar y funud fod y dadansoddiad wedi ei gyfyngu i fuddsoddiadau ecwiti cyhoeddus, gyda pheth gwybodaeth ar gael ar gyfer incwm sefydlog a buddsoddi mewn eiddo.

 

Er mwyn rhoi hyn mewn cyd-destun, atgoffodd Mr Buckland y Pwyllgor am y strategaeth fuddsoddi bresennol a nododd ar gyfer y dadansoddiad ôl troed carbon, fod Mercer wedi cynnwys ecwiti rhestredig (10% ecwiti Byd-Eang, 10% ecwiti Marchnadoedd Datblygol) a mwyafrif y portffolio TAA/Syniadau Gorau. O ystyried fod y Gronfa yn amrywiol a’i bod yn agored i farchnadoedd preifat, pwysleisiodd Mr Buckland anhawster dadansoddi ôl troed carbon yn hyn o beth. Aeth Mr Gaston yn ei flaen i nodi, pan gafodd ôl troed carbon ei ddadansoddi ar 31 Mawrth 2020, llwyddwyd i asesu 18.6% o’r gronfa, ac ar 30 Medi 2020, oherwydd newidiadau mewn cymysgedd asedau, roedd y gyfran a ddadansoddwyd wedi cynyddu i 26.5 o’r Gronfa.

 

Canolbwyntiodd Mr Gaston ar ddarganfyddiadau’r crynodeb gweithredol. Soniodd fod y portffolio ecwiti a restrir ychydig yn fwy carbon effeithiol na’r meincnod byd-eang MSCI ACWI. Roedd gostyngiad hefyd yn nwysedd carbon o c9% sydd wedi ei yrru’n rhannol gan y gostyngiad yn nwysedd y carbon mewn asedau a ddelir gan Bartneriaeth Pensiynau Cymru a throsglwyddo ecwiti goddefol gyda BlackRock i’w Cronfa Ecwiti ESG.  ...  view the full Cofnodion text for item 120