Mater - cyfarfodydd
Families First - Funding Element
Cyfarfod: 15/12/2020 - Cabinet (eitem 61)
61 Teuluoedd yn Gyntaf – Yr Elfen Ariannu PDF 120 KB
Pwrpas: Tynnu sylw at y cyflawniadau a gofyn i’r Cabinet gefnogi parhau â’r ddarpariaeth sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn darpariaeth gwasanaethau atal a chymorth wedi’u hariannu Teuluoedd yn Gyntaf am hyd at 12 mis, yn ddibynnol ar i Lywodraeth Cymru gymeradwyo mwy o gyllid. Byddai hyn yn galluogi:
· Parhau i ddarparu gwasanaethau allweddol i rieni, pobl ifanc a theuluoedd sydd â phlant anabl yn Sir y Fflint a oedd yn elwa fwyaf o gymorth cynnar i ddatblygu gwytnwch a lles;
· Gweithredu’r Hwb Cymorth Cynnar yn effeithiol; a
· Gweithio gyda phartneriaid i werthuso, datblygu a chomisiynu gwasanaethau atal a chymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd Sir y Fflint.
Roedd yr Aelodau’n llwyr gefnogol o’r adroddiad a gwnaethant sylwadau ar ymyrraeth gynnar hanfodol oedd yn cael ei darparu gan y gwasanaeth hwn.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo estyniad, yn ddibynnol ar i Lywodraeth Cymru gymeradwyo mwy o gyllid am gyfnod o chwe mis, gydag opsiwn am chwe mis arall os oes angen.