Mater - cyfarfodydd

Commissioning of Learning Disability Day Services

Cyfarfod: 15/12/2020 - Cabinet (eitem 62)

62 Comisiynu Gwasanaethau Diwrnod Anableddau Dysgu pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i ail-gomisiynu Gwasanaethau Diwrnod Anableddau Dysgu gan ddarparwr presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor wedi prynu gwasanaethau dydd anableddau dysgu wedi’u teilwra ar gyfer awtistiaeth i dri ar ddeg o unigolion trwy brynu ‘ar y pryd’.

 

            Nid oedd unrhyw gytundeb fframwaith perthnasol ar waith a oedd yn trafod comisiynu gwasanaethau o’r fath na chytundeb contractau’n adlewyrchu’r gwasanaethau oedd wedi’u prynu ar hyn o bryd.

 

            Roedd y darparwr gwasanaeth presennol wedi dweud bod y cytundeb prynu ‘ar y pryd’ presennol angen ei ddisodli â chytundeb mwy ffurfiol dan gontract er mwyn galluogi parhad gwasanaeth yn y dyfodol.

 

            Cyflwynwyd Adroddiad Eithriadau yn ceisio dyraniad uniongyrchol ar gyfer y gwasanaethau oedd yn cael eu prynu ar hyn o bryd ym mis Medi 2020.  Roedd y rhesymeg yn seiliedig yn bennaf ar yr angen am sicrhau parhad gwasanaeth i’r unigolion oedd yn cael y gwasanaethau dydd. Roedd cyngor gan y Tîm Caffael yn dweud bod sail yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ar gyfer dyraniad uniongyrchol byrdymor, nid am ddyraniad uniongyrchol hirdymor. Oherwydd yr amcangyfrif o gostau blynyddol gwasanaethau, roedd angen penderfyniad gan y Cabinet i sancsiynu unrhyw ddyraniad uniongyrchol mwy hirdymor.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai staff yn sicrhau bod anghenion yr unigolion yn dal i gael eu diwallu. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Swyddog bod y cwmni arbenigol wedi’i leoli yng Nghilgwri (y Wirral). 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo dyfarnu contract yn uniongyrchol i’r darparwr gwasanaeth presennol ar gyfer y Gwasanaethau Cymunedol a Gwirfoddol, fel yr oedd yr adroddiad yn ei nodi.