Mater - cyfarfodydd

Welsh Government Consultation on Corporate Joint Committees (CJCs)

Cyfarfod: 08/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 24)

24 Adborth ar Gynigion Llywodraeth Cymru i Gyflwyno Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas:        I dderbyn sylwadau gan Craffu ar gynigion Llywodraeth Cymru i gynnwys yr adolygiad o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’u cynigion i gyflwyno Cydbwyllgorau Corfforaethol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn gofyn am sylwadau ar gynigion Llywodraeth Cymru i gynnwys yr adolygiad o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol  a’r cynigion i gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Cyflwynodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at adran 1.12 yn yr adroddiad gan ddweud nad oedd yr Awdurdod yn gwrthwynebu mewn egwyddor y cynnig i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol, fel dewis gwell ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru a’r cost a’r amhariad fyddai’n deillio o hynny. Fodd bynnag, roedd pryderon yngl?n â chylch gorchwyl a swyddogaeth y Cyd-bwyllgorau ar y dechrau ac unrhyw bwerau yn y dyfodol, a’r effaith ar gapasiti lleol i gyflawni a rheoli swyddogaethau a chynlluniau lleol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ymatebion pellach y Cyngor i’r papur ymgynghorol ar y cynigion fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cyd-bwyllgorau oedd 4 Ionawr 2021.  Dywedodd y byddai’r Cyd-bwyllgorau yn cynnwys y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri. Esboniodd y byddai gan y Cyd-bwyllgorau y swyddogaethau cysylltiedig canlynol: gwella Datblygu Economaidd a Lles; Cynllunio Strategol, a Chynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol. Cyflwynodd drosolwg o’r ddwy swyddogaeth gyntaf a dywedodd fod y Cyngor yn cefnogi’r cynigion mewn egwyddor ond ei fod yn pryderu yngl?n ag amserlenni, cyllid a materion eraill. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) wybodaeth gefndir gan adrodd ar sefyllfa’r Cyngor mewn ymateb i’r cynigion o safbwynt cynllunio trafnidiaeth. Roedd y Cyngor yn gefnogol mewn egwyddor i’r cynigion fel model rhanbarthol ond roedd ganddo rywfaint o bryderon fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod y Strategaeth Drafnidiaeth Newydd wedi cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Dywedodd ei bod hi wedi mynegi pryderon yn rheolaidd yngl?n â chadw arian ac adnoddau yn lleol, ond roedd yn cefnogi ymagwedd ranbarthol ar gyfer llwybrau rheilffyrdd a bysiau strategol. Hefyd, mynegodd ei phryderon yngl?n â’r goblygiadau wrth benodi swyddogion ar gyfer y Cyd-bwyllgorau o’r awdurdodau lleol ar gyfer pob rhanbarth, a disgwyliad Llywodraeth Cymru oedd y byddai’r rolau yn gofyn am ymrwymiad o 1-5 diwrnod yr wythnos. Pwysleisiodd yr angen i gadw gwybodaeth gwerthfawr y swyddogion lleol.  

 

Mynegodd y Cynghorydd Chris Bithell bryderon yngl?n ag amserlenni ac anawsterau posibl a fyddai’n gysylltiedig â datblygu Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n â’r angen am seilwaith trafnidiaeth i fodloni gofynion economaidd a chymdeithasol Sir y Fflint.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr i sylwadau’r Aelodau a chytunodd fod angen osgoi dyblygu gweinyddiaeth a chostau a rhoddodd enghraifft o sut gellid osgoi hyn. 

 

Ategodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr angen i adrodd pryderon yr Awdurdod am y cynigion yn ôl i Lywodraeth Cymru ar faterion adnoddau, ariannu, a’r angen i gadw gwybodaeth a phrofiad swyddogion lleol. 

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n ag effaith Brexit ar borthladd Caergybi, esboniodd y Prif Weithredwr fod gwaith mawr yn cael ei wneud ar lefel rhanbarthol yn  ...  view the full Cofnodion text for item 24