Mater - cyfarfodydd

North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal

Cyfarfod: 10/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 22)

22 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol pdf icon PDF 169 KB

Cyflwyno’r dogfennau allweddol gofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i lunio Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ddogfen yn nodi’r dogfennau allweddol y mae’n rhaid eu cymeradwyo er mwyn llunio Cytundeb Bargen Twf Terfynol ar gyfer Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd bod adroddiad a’r dogfennau perthnasol wedi’u hanfon at yr holl sefydliadau partner gyda’r bwriad y bydd y deng partner wedi mabwysiadu'r adroddiad erbyn canol mis Rhagfyr yn barod i lofnodi'r Fargen Twf gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Byddai adroddiad er gwybodaeth yn cael ei gyflwyno i gyfarfodydd Craffu, Cabinet a Chyngor y chwe awdurdod lleol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr mai’r Fargen Twf yw'r prosiect cydweithredol unigol mwyaf y mae Gogledd Cymru erioed wedi ymgymryd ag o, a chyfeiriodd at yr arwyddocâd gwleidyddol, economaidd ac ariannol.  Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) gyflwyniad ar y cyd ar Fargen Twf Gogledd Cymru a oedd yn ymwneud â'r pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • partneriaeth - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
  • Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
  • Strwythur Llywodraethu
  • Amserlen
  • Cytundeb Terfynol
  • gofynion y Cytundeb Bargen Twf Terfynol – Achosion Busnes
  • cynllun busnes trosfwaol
  • portffolio’r fargen twf
  • rhaglenni
  • incwm a gwariant
  • goblygiadau Ariannol
  • Cytundeb Llywodraethu 2
  • Cytundeb Terfynol drafft
  • dyddiadau allweddol

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am y gwaith rhanbarthol llwyddiannus sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sydd wedi’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru.  Anogodd yr Aelodau i gefnogi'r argymhellion yn yr adroddiad gan ddweud eto bod angen gwneud cynnydd er mwyn llofnodi'r  Fargen Twf derfynol gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU cyn diwedd Rhagfyr 2020 am y rhesymau a nodwyd eisoes.Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Prif Weithredwr am ei waith caled a’i ddylanwad ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a thalodd deyrnged hefyd i’r Cynghorydd Aaron Shotton am ei waith fel cyn Arweinydd y Cyngor.

 

Cododd y Cynghorydd Paul Shotton gwestiwn am orwariant. Mewn ymateb eglurodd y Prif Weithredwr fod trefniadau llywodraethu llym cysylltiedig â rhaglenni sydd wedi'u datganoli i lefel prosiect  a rhoddodd sicrwydd nad oes unrhyw bryderon cysylltiedig â gorwariant.Ymatebodd y Prif Weithredwr i’r sylwadau a wnaed am BREXIT a dywedodd y byddai budd lleol i Sir y Fflint yn deillio o’r Fargen Twf drwy wasgariad cyllid Ewrop. Siaradodd hefyd am arwyddocâd Caergybi o ran masnach, buddsoddiad a thwristiaeth. 

 

Mewn ymateb i bryderon y Cynghorydd Owen Thomas yn ymwneud â chyflogaeth leol a buddsoddiad mewn diwydiant lleol, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai swyddi a buddion yn deillio o’r Fargen Twf wedi’u lledaenu ar draws y rhanbarth a bod arian i’w fuddsoddi mewn diwydiant lleol hefyd wedi'i ennill cyn, ac ar wahân i'r Fargen Twf. Mewn ymateb i'r pryderon ychwanegol a fynegwyd gan y Cynghorydd Thomas cyfeiriodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) at Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r gwaith rhwng colegau a’r Bwrdd Uchelgais i sicrhau bod ysgolion, colegau a phrifysgolion yn darparu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y swyddi a fydd yn cael eu creu drwy raglenni cyfalaf newydd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan  ...  view the full Cofnodion text for item 22