Mater - cyfarfodydd
Establishment of Sport North Wales Partnership
Cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet (eitem 41)
41 Sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru PDF 122 KB
Pwrpas: Ceisio cymeradwyaeth i Gyngor Sir y Fflint fod yn bartner ym Mhartneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Establishment of Sport North Wales Partnership, eitem 41 PDF 627 KB
- Enc. 2 for Establishment of Sport North Wales Partnership, eitem 41 PDF 5 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Cyngor fod yn bartner ym Mhartneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (ChGC).
Roedd ChGC yn sefydliad cenedlaethol a oedd yn gyfrifol am gael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a gwella perfformiad mewn chwaraeon yng Nghymru, ac un a oedd yn y gorffennol wedi darparu cyllid blynyddol i bob awdurdod lleol a phartneriaid eraill i gynnal nifer o raglenni ac ymyraethau chwaraeon ar draws Gogledd Cymru. Roedd y rheini’n cynnwys Pobl Ifanc Egnïol a’r Fenter Nofio am Ddim.
Y weledigaeth ar gyfer ChGC oedd datblygu Gwlad Egnïol gyda chefnogaeth Strategaeth Chwaraeon Cymru. Mewn ymateb i’r Strategaeth hon, sefydlwyd partneriaeth gydweithredol yn 2018 gan ei rhoi ar waith i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ac achos busnes. Arweiniodd hynny at ffurfio ChGC gyda 13 o bartneriaid rhanbarthol.
Cynigiwyd y byddai pum sefydliad rhanbarthol ar draws Cymru yn y dyfodol, a ChGC fyddai rhanbarth y peilot. Roedd yr achos busnes wedi’i gyflwyno i Chwaraeon Cymru ac roedd eu Bwrdd i fod i wneud penderfyniad arno yn ddiweddarach yn y mis. Roedd pob un o’r 13 o bartneriaid yn cael eu gwahodd i gefnogi ffurfio ChGC yn ffurfiol, o dan fodel lle byddai awdurdod lleol yn ei ‘gynnal’.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod y cytundeb llywodraethu a’r achos busnes wedi’u hatodi i’r adroddiad. Roedd Aura’n cyd-arwain ar y prosiect, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy oedd yr awdurdod cynnal. Byddai dau gorff llywodraethu a byddai angen cynrychiolaeth o’r Cyngor.
Croesawai’r Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac roedd yn edrych ymlaen at ei weld yn llwyddo.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cabinet yn cefnogi sefydlu Partneriaeth Chwaraeon Gogledd Cymru (ChGC).