Mater - cyfarfodydd

North Wales Economic Ambition Board - Final Growth Deal

Cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet (eitem 40)

40 Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol pdf icon PDF 170 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r dogfennau allweddol gofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i lunio Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Butler yr adroddiad ac eglurodd fod Bargen Dwf Gogledd Cymru’n bortffolio o 5 rhaglen i’w gael eu cyflawni yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Byddai Swyddfa Rheoli’r Portffolio’n cyflawni’r rhaglenni ar ran Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (BUEGC).

 

Eglurodd y Prif Weithredwr bod y Fargen Dwf yn ceisio sicrhau cyfanswm o hyd at £1.1 biliwn o fuddsoddiad yn economi Gogledd Cymru (£240 miliwn o’r Fargen Dwf) i greu 3,400 i 4,200 o swyddi ychwanegol net a chynhyrchu gwerth ychwanegol gros net ychwanegol o £2.0 i £2.4 biliwn.

 

Roedd y 5 rhaglen yn cynnwys 14 prosiect a phob un wedi’i ddylunio a‘i ddatblygu’n ofalus gyda budd-ddeiliaid i fynd i’r afael â methiannau penodol yn y farchnad a rhwystrau i dwf economaidd. Byddai achosion busnes yn cael eu datblygu i brosiectau unigol ac yn cael eu cyflwyno i BUEGC i’w cymeradwyo o fis Ionawr 2021 ymlaen.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei ystyried yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi yr wythnos cynt, lle buont yn ystyried yr effeithiau economaidd, ac roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol hefyd wedi ystyried yr agweddau ar lywodraethu a chyllid yr wythnos cynt. Ar ôl bod ger bron y Cabinet, byddai’r adroddiad yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor Sir y prynhawn hwnnw. Fe wnaeth y ddau Bwyllgor Trosolwg a Chraffu gefnogi’r adroddiad.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y meysydd oedd yn swyddogaethau i’r Cabinet a’r rhai oedd angen cymeradwyaeth y Cyngor Sir. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr y gallai cyfran o’r Trethi Annomestig Cenedlaethol gael ei chadw o ddatblygiadau newydd, o hyd at 50%.  

 

Croesawai’r Aelodau’r adroddiad a bu iddynt ei gefnogi.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet a’r Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy’n nodi’r trefniadau i gyflawni Bargen Dwf Gogledd Cymru fel y sail i gytuno i Gytundeb y Fargen Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r darpariaethau sydd yng Nghytundeb Llywodraethu 2 ynghlwm â swyddogaethau gweithredol, ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, a bod y Cabinet yn mabwysiadu, yn benodol, y dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl sydd yng “Nghytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” fel y sail i gwblhau Cytundeb y Fargen Derfynol a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU;

 

 (c)       Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn argymell yn ffurfiol i’r Cyngor awdurdodi’r corff cyfrifol, Cyngor Gwynedd, i lofnodi llythyr y Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid;

 

 (d)      Bod y Cabinet yn cefnogi ac yn argymell yn ffurfiol i’r Cyngor ei fod yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo cost y benthyciadau y credir y bydd eu hangen i alluogi llif arian negyddol y Fargen Dwf, a chynnwys darpariaeth o fewn cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a’r cyfraniadau craidd ac ychwanegol sydd wedi’u pennu, sydd yng Nghytundeb Llywodraethu 2 a pharagraffau 2.5-2.7 o’r adroddiad; a

 

(e)      Rhoi awdurdod  ...  view the full Cofnodion text for item 40