Mater - cyfarfodydd

Application for a Private Hire / Hackney Carriage (Joint) Driver Licence

Cyfarfod: 05/11/2020 - Is-bwyllgor Trwyddedu (eitem 5)

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd). Tynnodd sylw at yr adrannau perthnasol o ganllawiau mabwysiedig y Cyngor ar drin euogfarnau, rhybuddion a chosbau eraill wedi’u cofnodi.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, rhoddodd yr ymgeisydd wybodaeth gefndir am ddigwyddiadau yn ei fywyd personol yn arwain at ei euogfarn. Yn ei lythyr sylwadau, ni wnaeth esgusodion am ei ymddygiad ac roedd wedi cymryd camau i geisio cymorth o ganlyniad i’r un digwyddiad yma. Rhoddodd eglurhad am ei gofnod cyflogaeth a’i amgylchiadau personol cyfredol a oedd wedi arwain at ei gais.

 

Diolchodd yr aelodau o’r panel i’r ymgeisydd am ei onestrwydd ac eglurder wrth adrodd amgylchiadau ei euogfarn.

 

Eglurodd y Cyfreithiwr mai natur yr euogfarn oedd wedi ysgogi’r gwrandawiad. Mewn ymateb i gwestiynau, rhoddodd yr ymgeisydd rhagor o eglurhad ynghylch yr amseru a’r amgylchiadau’n ymwneud â’r troseddau’n arwain at ei euogfarn. Roedd yn mynegi edifeirwch am ei gamau, y dywedodd y bu iddynt gael eu dylanwadu gan ddigwyddiadau yn ei fywyd personol. Dywedodd fod ei benderfyniad i geisio cymorth ar ôl ei euogfarn wedi ehangu ei ddealltwriaeth o faterion iechyd meddwl, a’i fod wedi dysgu o’r holl brofiad. Cadarnhaodd nad oedd ganddo unrhyw broblemau gydag alcohol neu reoli dicter. I gefnogi ei gais, siaradodd am ei ddull wrth ddelio â sefyllfaoedd a allai fod yn anodd, a gwella sefyllfaoedd o’r fath, pe bai’n cael y drwydded.

 

Pan holwyd ef gan y Cadeirydd a fyddai’n hoffi gwneud rhagor o sylwadau, diolchodd yr ymgeisydd i’r panel am ystyried ei gais.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

5.1       Penderfynu ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i’r holl sylwadau llafar ac ysgrifenedig, ynghyd â Chanllaw’r Cyngor ar Drin Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill a gofnodir, yn cynnwys paragraffau 2.3, 4.1 a 4.19 o’r canllawiau a enwyd.

 

Wrth ystyried y wybodaeth a ddangosir ar dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr ymgeisydd, yn arbennig yr amser sydd wedi mynd heibio, edifeirwch yr ymgeisydd am yr un digwyddiad hwn, a’r ffaith nad oedd wedi ei wrthwynebu, teimlai’r panel - o bwyso a mesur - ei fod yn unigolyn addas a phriodol i fod yn berchen ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

5.2       Penderfyniad

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod, ar ôl ystyried y sylwadau a wnaed, yn ogystal â Chanllawiau Cyngor Sir y Fflint ar Drin Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill a gofnodir, cytunodd y panel fod yr ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded, ac y gellid rhoi Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni am dair blynedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth  ...  view the full Cofnodion text for item 5