Mater - cyfarfodydd

School Reserve Balances Year Ending 31 March 2020

Cyfarfod: 18/11/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 6)

6 Balansau Cronfeydd wrth gefn Ysgolion y Flwyddyn sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2020 pdf icon PDF 152 KB

Adrodd y lefel o falansau ysgol i’r Pwyllgor Archwilio ac amlygu’r peryglon a phrosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion mewn diffyg ariannol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad blynyddol ar gronfeydd wrth gefn sydd gan ysgolion Sir y Fflint a’r risgiau a’r prosesau mewnol sy’n gysylltiedig ag ysgolion sydd mewn diffyg.  Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant wedi rhoi ystyriaeth i’r adroddiad hefyd.

 

Roedd y sefyllfa ar ddiwedd mis Mawrth 2020 yn dangos gostyngiad sylweddol yn lefel y cronfeydd wrth gefn o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, gyda chynnydd o 44% yn y sefyllfa diffyg net ar gyfer ysgolion uwchradd a gostyngiad 26% mewn balansau ysgolion cynradd. Roedd nifer o ffactorau’n cyfrannu at risgiau sylweddol ar gadernid ariannol cyllidebau ysgolion, ac roedd ysgolion uwchradd yn bryder penodol a risgiau sy’n dod i’r amlwg yn y sector cynradd. Wrth gydnabod yr anhawster i ysgolion reoli’r pwysau parhaus hyn – yn ychwanegol i’r ansicrwydd o ran Covid-19 – roedd yr adroddiad yn crynhoi’r dull gweithredu cytbwys a gaiff ei ddilyn gan y portffolio i herio a thargedu cefnogaeth mewn ffordd gadarn fel bo’n briodol, gan ddefnyddio’r ‘Protocol ar gyfer Ysgolion ag Anawsterau Ariannol’ wedi’i ddiwygio. Roedd argymhellion o adolygiad cynghorol Archwilio Mewnol o’r Protocol wrthi’n cael eu gweithredu.

 

Soniodd y Cynghorydd Ian Roberts am effaith sylweddol mesurau llymder parhaus a dywedodd mai’r pryder allweddol oedd fod ysgolion yn cynnal safonau addysg a’r cwricwlwm ac roedd angen cyllid priodol ar gyfer hyn.  Byddai ef a’r Prif Weithredwr yn parhau i anfon sylwadau at Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer ymgodiad yn y Setliad, a byddai’r sefyllfa diwedd blwyddyn ar falansau cronfeydd wrth gefn ysgolion yn cael ei monitro’n agos.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod enghreifftiau o rai ysgolion uwchradd â chyllidebau mewn diffyg sefydlog neu sy’n gwaethygu, heb unrhyw ddatrysiadau lleol ar gyfer adfer ar ôl, ar wahân i ymyrraeth o ran cyllideb.  Roedd Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor wedi nodi bod angen ymgodiad penodol o ran y fformiwla ariannu er mwyn i ysgolion uwchradd fynd i’r afael â’r sefyllfa o ran diffyg. Roedd y Cyngor wedi parhau â’i achos i LlC fel eu bod ymhlith y rhai sy’n cael eu hariannu leiaf yng Nghymru o ran yr angen am Setliad uwch i ailgydbwyso cyllidebau ysgolion uwchradd sydd mewn diffyg.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan Allan Rainford, rhoddodd swyddogion eglurhad am y camau yn y Protocol gan bwysleisio bod sefyllfa dwy ysgol a amlygwyd o fewn yr adroddiad oherwydd diffyg ariannu a bod pob dewis a oedd ar gael ar gyfer adferiad wedi’u defnyddio yn yr achosion hynny.

 

Wrth ganmol lefel yr her a roddwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant i’r adroddiad, awgrymodd Sally Ellis fod diweddariadau mwy rheolaidd yn cael eu rhoi i’r Pwyllgor hwnnw i helpu i fonitro cynnydd. Holodd am effaith ymgodiad penodol ar gyfer cefnogi cyllidebau ysgolion o’r blaen a sicrhau y byddai unrhyw ymgodiad yn y dyfodol yn helpu i ddatrys y sefyllfa.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr ardoll ychwanegol ar Dreth y Cyngor yn 2018/19 er mwyn cynnal sefyllfa arian gwastad a chynorthwyo â phwysau chwyddiant mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 6