Mater - cyfarfodydd
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cyfarfod: 18/11/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 14)
14 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 83 KB
Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yr Adran Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme, eitem 14 PDF 60 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio Mewnol y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i'w hystyried.
Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Heesom am falensau cronfeydd wrth gefn ysgolion, dywedodd y Cynghorydd Roberts fod sicrwydd wedi’i roi am lefel y craffu a’r monitro ar y mater.
Holodd Allan Rainford a oedd potensial i’r Pwyllgor ofyn am sesiwn friffio yn dilyn canlyniad y broses o osod y gyllideb ar gyfer 2021/22, er mwyn deall y risgiau a’r heriau a wynebir gan y Cyngor.
Awgrymodd y Cynghorydd Roberts y byddai adroddiad i’r Pwyllgor yn fwy priodol o bosibl, er mwyn osgoi ailadrodd rolau.
Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y gyllideb yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Cyngor Sir ym mis Chwefror 2021 a gallai rhannu’r broses o reoli risgiau a nodwyd helpu’r Pwyllgor i gyflawni ei rôl.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorydd Heesom a Sally Ellis.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a
(b) Awdurdodi Rheolwr yr adran Archwilio Mewnol, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.