Mater - cyfarfodydd
Audit Committee Annual Report
Cyfarfod: 18/11/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 11)
11 Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio PDF 92 KB
Rhoi gwybod i’r Aelodau fanylion gweithgareddau'r Pwyllgor Archwilio yn ystod 2019/20.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Audit Committee Annual Report, eitem 11 PDF 3 MB
- Gweddarllediad ar gyfer Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2019/20 i'w gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'w gymeradwyo yn y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr. Wrth grynhoi’r meysydd allweddol, dywedodd nad oedd unrhyw feysydd pryder wedi’u nodi a bod ymarfer hunanasesiad y Pwyllgor wedi’i ohirio oherwydd y sefyllfa argyfwng.
Dywedodd Sally Ellis, er bod penderfynu ‘nodi’ adroddiadau yn aml yn briodol, gallai’r Pwyllgor ychwanegu gwerth trwy ystyried argymhellion ychwanegol lle bo angen. Dywedodd y Prif Swyddog y gallai swyddogion gynorthwyo trwy gyflwyno argymhellion mwy rhagweithiol.
Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Dunbobbin a’r Cynghorydd Johnson.
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2019/20 yn cael ei gymeradwyo cyn ei gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo ar 8 Rhagfyr 2020.