Mater - cyfarfodydd

Capital Strategy 2021/22 – 2023/24

Cyfarfod: 08/12/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 36)

36 Strategaeth Gyfalaf 2021/22 – 2023/24 pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2021/22 – 2023/24 i’w chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.  Roedd yn egluro’r gofyniad ar gyfer y Strategaeth, ei brif amcanion a chynnwys pob un o’i adrannau.

 

O dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), roedd gofyn i awdurdodau osod ystod o Ddangosyddion Darbodus.  Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2021/22 – 2023/24.

 

Prif amcanion y Strategaeth oedd i egluro’r modd yr oedd y Rhaglen Gyfalaf yn cael ei datblygu a’i hariannu, yr effaith posibl yr oedd yn ei gael ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r modd yr oedd yn ymwneud â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.  Roedd y Strategaeth yn ddogfen drosfwaol ac roedd yn cyfeirio at ddogfennau eraill fel y Rhaglen Gyfalaf, Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Polisi Darparu Isafswm Refeniw.  Roedd y Strategaeth wedi ei rhannu yn nifer o adrannau a oedd yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet ac nid oedd unrhyw faterion wedi eu codi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Banks yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Roberts.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl swyddogion a fu’n ymwneud â hyn am sicrhau fod y rhaglenni yn parhau i gael eu hariannu a bod hylifedd yn parhau yn dda.

 

Ar dudalen 27, gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd meini prawf fforddiadwyedd wedi eu gosod o ran y cyllid gan fod Tabl 2 yn dangos cynnydd o 500% mewn grantiau/cyfraniadau/benthyciadau penodol.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yna gynnydd sylweddol yn 2023/24 o ganlyniad i raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Roedd cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi eu gosod yn y cyfrifiadau hyn a hefyd wedi eu gosod yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd yna unrhyw risg i’r Cyngor o ran lefel y ddyled fel yr amlinellir yn nhabl 5 yr atodiad.  Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod lefel y ddyled yn cael ei monitro’n ofalus drwy gydol y flwyddyn i sicrhau fod y ddyled yn is na’r gofyniad cyfalaf.   Roedd rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i osod cyfyngiad wedi ei awdurdodi ar gyfer dyled allanol bob blwyddyn a chadw hyn dan adolygiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Strategaeth Gyfalaf yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod y canlynol yn cael eu cymeradwyo:

           

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22 - 2023/24 fel y nodir yn Nhablau 1 a 4-7, gan gynnwys y rhai hynny, o’r Strategaeth Gyfalaf; a

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i greu symudiadau rhwng y cyfyngiadau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y cyfyngiad a awdurdodwyd ar gyfer y ddyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 o’r Strategaeth Gyfalaf).