Mater - cyfarfodydd
Capital Programme 2021/22 – 2023/24
Cyfarfod: 08/12/2020 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 37)
37 Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 PDF 260 KB
Pwrpas: Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 i'w chymeradwyo.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer cyfnod 2021/22 – 2023/24 i’w gymeradwyo, wedi ei gefnogi gan gyflwyniad PowerPoint.
Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn ymdrin â buddsoddiad mewn asedau ar gyfer yr hirdymor i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Roedd yr asedau yn cynnwys adeiladau (fel ysgolion a chartrefi gofal), seilwaith (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff) ac asedau nad ydynt yn eiddo i’r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi’r sector preifat). Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig o fewn yr adroddiad wedi eu halinio’n agos at gynlluniau busnes gwasanaeth portffolios a Chynllun y Cyngor.
Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi blaenoriaethau, anghenion a dyledion y Cyngor. Fodd bynnag, roedd ganddo’r pwerau i ariannu cynlluniau Cyfalaf drwy fenthyca - dros dro oedd hyn ac yn y pen draw roedd y gost ac ad-dalu unrhyw fenthyca yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor. Roedd cynlluniau a gâi eu hariannu gan fenthyca yn cael eu hystyried yn ofalus o ganlyniad i’r effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.
Rhannwyd Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor yn dair rhan:
1. Statudol / Rheoleiddio - dyraniadau i gynnwys gwaith rheoleiddio a statudol.
2. Asedau Cadwedig - dyraniadau i ariannu gwaith ar seilwaith sydd ei angen i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.
3. Buddsoddiad - dyraniadau i ariannu gwaith.
Rhoddodd y Prif Swyddog fanylion pob un o’r tablau o fewn yr adroddiad a oedd yn rhan o’r cyflwyniad, ac a gâi eu cefnogi gan eglurhad yn yr adroddiad ar bob tabl.
Rhoddwyd manylion am gynlluniau posibl yn y dyfodol, a chafwyd manylion am y rhain yn yr adroddiad hefyd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Roberts a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Thomas.
Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwaith a wnaed i ddatblygu’r Rhaglen Gyfalaf. Dywedodd fod y rhaglen yn dangos dyfnder y cyfranogiad mewn ysgolion, cartrefi gofal, seilwaith a rhwydweithiau TG. Fe wnaeth sylw ar y canolbwynt i’r digartref, Hwb Cyfle, Ysgol Glan yr Afon, Castell Alun, y cynlluniau ar gyfer ardaloedd Saltney a Brychdyn a Mynydd Isa ar gyfer ysgolion. Hefyd fe wnaeth sylw ar Marleyfield, y cyfleuster archifau ar y cyd ac ailddatblygu Theatr Clwyd.
Cytunodd y Cynghorydd Thomas gyda sylwadau’r Cynghorydd Roberts a diolchodd i swyddogion am dynnu cyllid cyfalaf drwy’r llwybrau amrywiol a oedd ar gael iddynt. Eglurodd fod y Cyngor yn aros i glywed y canlyniad ar y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer cynlluniau o dan y cyllid Ysgogi Economaidd.
Cytunodd y Cynghorydd Dunbar gyda’r sylwadau hefyd a mynegodd ei ddiolch am y cyllid ar gyfer ardaloedd chwarae. Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am y gwaith a wnaed ar y pontydd ym Mharc Gwepra. Gofynnodd beth oedd y cynllun tymor hirach ar gyfer Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Eglurodd y Prif Weithredwr fod eglurhad cychwynnol gan ... view the full Cofnodion text for item 37