Mater - cyfarfodydd
Capital Programme 2021/22 – 2023/24
Cyfarfod: 12/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 32)
32 Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 PDF 578 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2021/22 - 2023/24 a oedd yn nodi buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian, wedi ei rannu rhwng y tair adran: Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad. Fel yr adroddiad yn yr eitem flaenorol, roedd amcangyfrif o £0.403 miliwn o arian dros ben, gyda £0.617 miliwn o arian dros ben ar gyfer 2020/21.
Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:
· Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor
· Rhaglen Gyfredol 2020/21-2022/23
· Cyllid a Ragwelir 2021/22 - 2023/24
· Dyraniadau Arfaethedig – Statudol/ Rheoleiddiol, Asedau wrth Gefn a Buddsoddiad
· Crynodeb Rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol
· Cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol
· Crynodeb Rhaglen Gyfalaf
· Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol
· Y camau nesaf
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu gwybodaeth ar wahân ar ddatblygiad datrysiad ar gyfer mynwentydd Penarlâg.
Canmolodd y Cynghorydd Dunbobbin yr amrywiaeth o brosiectau oedd yn gysylltiedig â blaenoriaethau’r Cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau eraill, byddai’r Prif Swyddog hefyd yn darparu ymateb ar wahân ar a oedd addasiadau i gartrefi gofalwyr maeth hefyd yn berthnasol i ofalwyr sy'n berthnasau. O safbwynt cymorth i blant sy’n derbyn gofal, siaradodd am yr amrywiol fentrau gyda’r bwriad o geisio cadw teuluoedd gyda’i gilydd.
Gofynnodd y Cynghorydd Peers a ystyriwyd pryderon am y rhwydwaith ffyrdd lleol wrth wneud y dyraniad i orsaf trosglwyddo wastraff Standard Yard. Eglurodd Swyddogion fod y gwaith rhagarweiniol yn cael ei wneud ar opsiynau i aildrefnu’r rhwydwaith ffyrdd. Rhannwyd gwybodaeth hefyd ar raglenni ar gyfer gliniaduron newydd ac adnewyddu toiledau mewn ysgolion.
Rhoddodd y Cynghorydd Thomas ddiweddariad ar gyllid ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff Standard Yard. O safbwynt y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, mynegodd bryderon yngl?n â diwedd y rhaglen gyllido gan Lywodraeth Cymru a byddai’n ceisio cynnydd yng nghyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn parhau i fuddsoddi yn isadeiledd ffyrdd y Sir tra’n parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru. Aeth ymlaen i ganmol dull gweithredu’r Prif Swyddog a’i dîm o wneud y mwyaf o dderbyniadau cyfalaf a chyllid grant i gefnogi’r Rhaglen Gyfalaf.
Wrth ganmol yr adroddiad, canmolodd y Cynghorydd Heesom yr Aelod Cabinet a’r Prif Swyddog am eu gwaith.
Talodd y Cynghorydd Banks deyrnged i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith ar fynd i’r afael â digartrefedd.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Heesom a Collett.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2021/22-2023/24;
(b) Bod y cynlluniau wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.27) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 1.27 - 2021/22-2023/24 yn cael eu cymeradwyo;
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2021/22 yn Nhabl 5 (paragraff 1.36) ar hyn o bryd yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau ... view the full Cofnodion text for item 32