Mater - cyfarfodydd
Capital Strategy Including Prudential Indicators 2021/22 – 2023/24
Cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet (eitem 42)
42 Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2021/22 - 2022/23 PDF 294 KB
Pwrpas: Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2021/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Strategy 2021/22 – 2023/24, eitem 42 PDF 412 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2021/22 - 2022/23
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a rhoddodd ddiweddariad ar Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a gofynnodd i’r Cabinet gymeradwyo ei argymell i’r Cyngor.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol pam oedd angen y Strategaeth, ei nodau allweddol a chynnwys pob un o’i hadrannau.
Nodau allweddol y Strategaeth oedd egluro sut yr oedd y rhaglen gyfalaf wedi’i datblygu a’i hariannu, yr effaith y gallai ei chael ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r modd yr oedd yn gysylltiedig a Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor. Roedd y Strategaeth wedi’i rhannu’n nifer o adrannau a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Eglurwyd y tablau a oedd yn yr atodiadau.
Roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol wedi trafod yr adroddiad yr wythnos cynt, ac ni fynegwyd unrhyw bryderon. Byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf a’i hargymell i’r Cyngor Sir; a
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell y canlynol i’r Cyngor Sir:
· Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22–2023/24 fel yr oedd Tablau 1, a 4–7 yn ei nodi yn y Strategaeth Gyfalaf; ac
· Awdurdod dirprwyedig i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i wneud newidiadau rhwng y terfynau y cytunwyd arnynt ar wahân, o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a'r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).