Mater - cyfarfodydd
Annual Review of the Modern Slavery Statement
Cyfarfod: 15/12/2020 - Cabinet (eitem 64)
64 Adolygiad Blynyddol o’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern PDF 90 KB
Pwrpas: Adolygiad Blynyddol o’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern a’r cynnydd yn erbyn ei amcanion a’i gamau gweithredu.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Annual Review of the Modern Slavery Statement, eitem 64 PDF 96 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Adolygiad Blynyddol o’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod y Cyngor yn gwario tua £197 miliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Roedd y Cyngor am sicrhau ei fod yn gwario gyda sefydliadau a oedd yn rhannu gwerthoedd moesegol tebyg ac, yn enwedig, gyda sefydliadau oedd yn osgoi camfanteisio neu orfodi amodau annheg ar eu gweithwyr. Roedd ymrwymiad a gweithgarwch y Cyngor yn hynny o beth wedi’u nodi yn ei Ddatganiad Caethwasiaeth Fodern.
Roedd y Cyngor wedi gwneud rhywfaint o gynnydd i weithredu’r camau a addawyd yn natganiad y llynedd ac roedd bellach wedi sefydlu prosesau allweddol fel cymalau contractio a chaffael yn gwahardd arferion cyflogaeth anfoesegol o fewn y gadwyn gyflenwi. Yn anochel, oherwydd y galw ar swyddogion, ni fu modd gwneud yr holl hyfforddiant a gwaith codi ymwybyddiaeth a ddisgwylid a byddai gweithgarwch dros y 12 mis nesaf felly’n canolbwyntio ar hynny.
Croesawai’r Aelodau’r adroddiad gan gydnabod pwysigrwydd y pwnc. Dywedodd y Cynghorydd Jones ei bod hi wedi bod mewn tair sesiwn hyfforddiant, ynghyd â’r Cynghorydd Mullin, ac argymhellodd i’r Aelodau eraill fynd ar hyfforddiant o’r fath.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod hefyd angen deall beth oedd yng nghadwyni cyflenwi cwmnïau y tu allan i’r DU lle’r oedd achosion o brynu’n ymestyn y tu hwnt i gontract yn y DU.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo a chyhoeddi’r Datganiad Caethwasiaeth Fodern.