Mater - cyfarfodydd

Capital Programme 2021/22 – 2023/24

Cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet (eitem 43)

43 Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 pdf icon PDF 577 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 i'w hargymell i'r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac eglurodd fod Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Roedd yr asedau’n cynnwys adeiladau, isadeiledd ac asedau nad oeddent yn eiddo i’r Cyngor. 

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a oedd yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau busnes gwasanaethau portffolio a Chynllun y Cyngor.  Roedd y wybodaeth yn yr adroddiad yn cyfeirio at raglen Cronfa’r Cyngor yn unig, nid y rhaglen dai, a oedd yn cael ei hariannu o’r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Roedd Strategaeth Gyfalaf y Cyngor yn rannu’r Rhaglen Gyfalaf yn dair rhan:

 

  1. Adran Statudol / Rheoleiddiol – ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol. Roedd enghreifftiau’n cynnwys darparu cefnogaeth i wella ac addasu cartrefi’r sector preifat (Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl), addasiadau i ysgolion ar gyfer plant oedd ag anableddau ac unrhyw waith oedd ei angen i gadw adeiladau ar agor trwy fodloni gofynion Iechyd a Diogelwch.
  2. Adran Asedau sy’n cael eu Cadw – i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau a oedd yn gwella’r asedau oedd yn cael eu cadw ac isadeiledd i ddarparu gwasanaethau a bodloni angen sylweddol a ddynodwyd gan gynlluniau gwasanaeth neu trwy arolygon cyflwr, ac ati.
  3. Adran Fuddsoddi – i ariannu costau ailfodelu a buddsoddi mewn gwasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau newydd a oedd yn deillio o gynlluniau busnes Portffolios, Cynllun y Cyngor a chynlluniau eraill perthnasol a rhai oedd yn cael eu datblygu, a strategaethau eraill neu flaenoriaethau a oedd yn dod i’r amlwg i’r Cyngor oedd wedi’u cymeradwyo trwy broses ddethol yn seiliedig ar ddarparu achos busnes.

 

Eglurwyd pob un o’r tablau yn yr adroddiad, ynghyd â chynlluniau posib’ at y dyfodol.

 

Roedd yn rhaglen uchelgeisiol gyda llawer o brosiectau pwysig. Rhoddodd enghreifftiau o gynlluniau a gafodd eu cymeradwyo yn y gorffennol fel Ysgol Uwchradd Castell Alun – yr Hôb, a Chartref Preswyl Marleyfield – Bwcle, ac enghreifftiau o gynlluniau newydd i’w cymeradwyo fel ailddatblygu Theatr Clwyd a gwella Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard.

 

            Croesawai’r Aelodau’r adroddiad, oedd yn eu barn nhw’n gyffrous ac yn gosod gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn y gorffennol wedi darparu grant am gyfnod o dair blynedd tuag at welliannau i briffyrdd. Roedd y grant hwnnw bellach yn dod i ben. Roedd wedi bod mewn cyswllt ag Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i drafod bod angen parhau i gael cefnogaeth ariannol gan LlC ond nid oedd unrhyw wybodaeth ar gael am hynny eto. Gofynnodd a ellid cynyddu’r swm o £0.600 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd £0.400 miliwn fel bod cyfanswm y gyllideb yn £1 miliwn. Dywedodd y Prif Weithredwr y gellid edrych ar y posibiliadau gyda hyblygrwydd ac y gallai gael ei adolygu yn y flwyddyn newydd ar ôl i fanylion y Setliad gael eu cyhoeddi. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r dyraniadau  ...  view the full Cofnodion text for item 43