Mater - cyfarfodydd
Capital Programme Monitoring 2020/21 (Month 6)
Cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet (eitem 46)
46 Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 6) PDF 285 KB
Pwrpas: Darparu'r wybodaeth ar Fis 6 (diwedd Gorffennaf) y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/21 i’r Aelodau.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Capital Programme Monitoring 2020/21 (Month 6), eitem 46 PDF 91 KB
- Enc. 2 for Capital Programme Monitoring 2020/21 (Month 6), eitem 46 PDF 82 KB
- Enc. 3 for Capital Programme Monitoring 2020/21 (Month 6), eitem 46 PDF 82 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Monitro Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 6)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i Raglen Gyfalaf 2020/21 ers ei gosod ym mis Ionawr 2020 hyd at ddiwedd mis 6, ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r sefyllfa derfynol a ragwelid.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod gostyngiad net wedi bod yng nghyllideb y Rhaglen Gyfalaf o £3.419 miliwn yn ystod y cyfnod, a oedd yn cynnwys:
· Cynnydd net o £3.028 miliwn yng nghyllideb y rhaglen (Cronfa’r Cyngor - £3.028 miliwn, y Cyfrif Refeniw Tai – £0.000);
· Swm i’w ddwyn ymlaen i 2021/22, wedi’i gymeradwyo ym mis 4 o £6.420M;
· Arbedion wedi’u nodi ym mis 6 o £0.027 miliwn.
Eglurwyd manylion cynnwys y tabl, gan nodi bod y wybodaeth ynghlwm â phob maes yn y rhaglen wedi’i chynnwys yn Atodiad B.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo'r adroddiad cyffredinol; a
(b) Chymeradwyo’r addasiadau o ran dwyn cyllid ymlaen.