Mater - cyfarfodydd

Asset Disposal and Capital Receipts Generated 2019/20

Cyfarfod: 18/11/2020 - Pwyllgor Archwilio (eitem 7)

7 Gwarediad Asedau a Derbyniadau Cyfalaf a Gynhyrchwyd 2019/20 pdf icon PDF 146 KB

Hysbysu Aelodau o Warediadau Asedau 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad blynyddol a oedd yn crynhoi gwarediadau tir a gwireddu derbyniadau cyfalaf yn ystod 2019/20.  Roedd derbyniadau cyfalaf wedi’u halinio i gyfrannu at raglen y Cyngor o gynlluniau cyfalaf ar draws pob portffolio. Amlygwyd goblygiadau refeniw o wariant cyfalaf, a’r lleihad parhaus o ran cefnogaeth Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer gwariant cyfalaf.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan Allan Rainford, eglurodd y Prif Swyddog y dull gweithredu o ran delio ag asedau dros ben gan gynnwys dewisiadau i liniaru pwysau arall. Siaradodd hefyd am bwysigrwydd grantiau LlC i gefnogi’r Rhaglen Gyfalaf oherwydd y nifer o dderbyniadau cyfalaf sy’n lleihau.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorydd Dunbobbin a’r Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.