Mater - cyfarfodydd

Clwyd Pension Fund Update

Cyfarfod: 10/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 43)

43 Diweddariad Cronfa Bensiwn Clwyd pdf icon PDF 159 KB

Pwrpas:        I gael diweddariad ar Gronfa Bensiynau Clwyd, yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd adroddiad ar Gronfa Bensiynau Clwyd a’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019/20.

 

Cyflwynwyd y Pwyllgor i’r Rheolwr Gweinyddu Pensiynau a roddodd drosolwg o’r amrywiaeth o wasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan y timau.

 

Siaradodd Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau am y rhwymedigaethau statudol wrth gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol ac fe aeth ymlaen i amlygu meysydd allweddol megis canlyniad y prisiad actiwaraidd teirblwydd ac effaith y sefyllfa argyfwng.

 

Fel aelod o Bwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd, talodd y Cynghorydd Mullin deyrnged i’r gwaith a wnaed gan y tîm.

 

Rhoddwyd cyflwyniad ar drefniadau llywodraethu lleol a chenedlaethol y Gronfa yn cynnwys:

 

·         Strwythur Llywodraethu Cronfa Bensiynau Clwyd

·         Newidiadau Pwyllgor a Bwrdd

·         Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cenedlaethol

·         Polisïau a Strategaethau

·         Amcanion

·         Crynodeb o Chweched Adroddiad Blynyddol y Cynghorydd Annibynnol

·         Crynodeb o Chweched Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiynau

·         Edrych i’r Dyfodol

 

Yn ystod y cyflwyniad, eglurodd Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd y goblygiadau o Argymhellion Llywodraethu Da i’w cyflwyno o flwyddyn nesaf.

 

Siaradodd y Prif Weithredwr am gymhlethdod y Gronfa a’i threfniadau llywodraethu cadarn. Diolchodd i’r swyddogion, yn enwedig i’r Rheolwr Gweinyddu Pensiynau a’i thîm am y gwelliannau a oedd wedi cael eu gwneud yn y maes hwnnw.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jones i’r tîm am eu cyflwyniad.  Cynigodd yr argymhellion ac fe gefnogwyd y rheini gan y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ar ôl ystyried Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd ar gyfer 2019/20, nad oedd gan y Pwyllgor unrhyw sylwadau penodol i’w gwneud; a

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd meysydd penodol o bryder a oedd angen mwy o wybodaeth yn y diweddariad nesaf.