Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2020/21(E&E)

Cyfarfod: 09/02/2021 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 40)

40 Cynllun y Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 94 KB

Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio(s) priodol y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd adroddiad ar y Cynllun Cyngor arfaethedig ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n benodol ar bortffolios y Pwyllgor. Gwahoddodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol i gyflwyno’r Cynllun.

 

Darparodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol wybodaeth gefndir a nododd fod gan y Cynllun strwythur newydd o chwe thema a blaenoriaethau ategol, fel y nodir yn yr adroddiad, a oedd yn gosod uchelgais gyda realaeth bwyllog. Esboniodd fod y gwaith ar y blaenoriaethau wedi datblygu’n dda a bod y Cynllun drafft (Rhan 1) wedi’i atodi i’r adroddiad. Dywedodd fod y Cabinet wedi cytuno i’r cynnwys a dylid ymgynghori â’r holl Bwyllgorau Craffu yn ystod y cylch nesaf. Yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet yn yr ail gam cyn i’r Cyngor Sir ei fabwysiadu ym mis Ebrill/Mai.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) ar y prif feysydd lle’r oedd Gwasanaethau Stryd a Chludiant yn cefnogi Cynllun y Cyngor. Cyfeiriodd at y Gymdeithas Werdd a’r Amgylchedd, twf Teithio Llesol a Chynaliadwy, datblygu pwyntiau gwefru cerbydau trydan y Sir, cyflawni targedau diogelwch, datblygu gorsafoedd trosglwyddo gwastraff fel arfer safonol, cyfleuster compostio yn Greenfield, cefnogi’r Café Ailddefnyddio a Thrwsio sy’n cael ei adeiladu a chefnogi angen yr Awdurdod i ddiddymu rhywfaint o’i ddefnydd plastig. Adroddodd hefyd ar waith i ddatblygu seilwaith trafnidiaeth i gynnal twf economaidd.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) ar Adfywio Canol Trefi, Cymorth Busnes, targedau’r Cynllun Datblygu Lleol, lleihau diweithdra, a gwario arian er budd Sir y Fflint.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y flaenoriaeth Tlodi Plant a dywedodd fod angen codi ymwybyddiaeth o hawl rhieni i hawlio prydau ysgol am ddim. Cyfeiriodd hefyd at Anghenion Tai a gofynnodd a oedd preswylwyr mewn ôl-ddyledion rhent yn cael eu hatal rhag newid i eiddo llai i ddiwallu eu hanghenion. Cytunodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol i fynd ar drywydd y materion a godwyd ac ymateb i’r Cynghorydd Dolphin yn dilyn y cyfarfod.

 

Eglurodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol y broses ar gyfer adolygu cynnydd y Cynllun ar ôl ei fabwysiadu a dywedodd y byddai adroddiad perfformiad ar y Cynllun cyfan yn cael ei gyflwyno i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gan dynnu sylw at y meysydd perthnasol i’w hystyried.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Chris Dolphin ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi themâu’r Cynllun Cyngor 2021/22 a ddatblygwyd ymhellach cyn rhannu gyda’r Cabinet ym mis Mawrth 2021.