Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2020/21 development process
Cyfarfod: 10/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 41)
41 Proses Ddatblygu Cynllun y Cyngor 2020/21 PDF 105 KB
Pwrpas: Ystyried datblygiad o Gynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolios priodol y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Draft Council Plan 2020/21, eitem 41 PDF 299 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Proses Ddatblygu Cynllun y Cyngor 2020/21
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ddatblygiad Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22 gan ganolbwyntio ar bortffolios perthnasol y Pwyllgor.
Fel yr adroddwyd yn flaenorol, cafodd y blaenoriaethau strategol brys ar gyfer adfer y portffolios eu tynnu o Gynllun Drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21 a’u mabwysiadu yn ystod ail hanner 2020/21. Byddai Cynllun y Cyngor ar gyfer 2021/22 yn parhau i ystyried adferiad a byddai yn cael ei adeiladu o amgylch chwe thema a awgrymwyd gan y Cabinet:
· Economi
· Addysg a Sgiliau
· Yr Amgylchedd
· Tai
· Lles Personol a Chymunedol
· Tlodi
Roedd y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn adlewyrchu gwaith allweddol ar y meysydd hyn. Roedd yr ymgynghoriad gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi’i drefnu ar gyfer y Flwyddyn Newydd gan arwain at fabwysiadu gan y Cyngor ym mis Ebrill / Mai 2021. Mewn ymateb i bwynt cynharach y Cynghorydd Jones, er bod aliniad clir gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y pum thema cyntaf, roedd meysydd o dan y thema Tlodi yn ehangach ac yn ymestyn ar draws bortffolios.
Cydnabu’r pwynt hwn gan y Cynghorydd Roberts a siaradodd am yr angen i gadw themâu sy’n trawstorri, megis Tlodi a Lles, yn ogystal â blaenoriaethau yn ystod y flwyddyn megis y ‘Cyngor Gwyrdd’ a oedd angen golwg ar draws y Cyngor.
Cytunodd y Cynghorydd Thomas a rhoddodd enghreifftiau o gyd-weithio ar draws feysydd gwasanaeth. Cyfeiriodd hefyd at gyfle’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu i ddylanwadu ar eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol.
Wrth gydnabod nifer y materion sy’n trawstorri, pwysleisiodd y Cynghorydd Jones ei sylwadau am aliniad Cynllun y Cyngor gyda’r portffolios a bod y themâu yn haws i’w deall a’u dilyn pan yr oeddent wedi alinio â swyddog arweiniol a phwyllgor penodol.
Croesawodd y Cynghorydd Shotton y meysydd blaenoriaeth i fynd i’r afael â thlodi a oedd yn ymestyn ar draws gylch gwaith yr holl bwyllgorau.
Siaradodd y Cynghorydd Heesom o blaid sylwadau’r Cynghorydd Jones a pha mor bwysig yr oedd i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ganolbwyntio ar faterion allweddol.
Yn dilyn y drafodaeth, cefnogodd y Pwyllgor awgrym y Prif Weithredwr, sef y dylai’r thema Tlodi aros yn agored hyd nes ystyried yr eitem y tro nesaf er mwyn i Aelodau allu ystyried pa bwyllgor Trosolwg a Chraffu oedd fwyaf addas ar gyfer y thema hon.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorwyr Jones a Heesom.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r broses a’r amserlen ar gyfer adolygu Cynllun y Cyngor i’w ail-fabwysiadu ar gyfer 2021/22.