Mater - cyfarfodydd

Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures

Cyfarfod: 16/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 27)

27 Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i gyflwyno crynodeb o berfformiad ar ganol blwyddyn a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tanberfformio.

 

Rhoddodd y Rheolwr Budd-Daliadau sicrwydd i’r Pwyllgor bod mesurau cadarn mewn lle i ganiatáu ar gyfer cwblhau Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac y gallai gwaith barhau os oedd preswylwyr yn fodlon i waith fynd rhagddo yn eu cartrefi yn ystod yr argyfwng.

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r adroddiad.