Mater - cyfarfodydd
Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures
Cyfarfod: 03/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 17)
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Mid-year progress report against 2020/21 Reporting Measures, eitem 17 PDF 193 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad ar gyfer perfformiad y gwasanaeth yn erbyn y dangosyddion perfformiad a osodwyd yn gynnar yn y cyfnod adrodd a phwysleisiodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol mewn sawl ffordd gan fod nifer o feysydd wedi cael eu cynnal.
Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Cunningham, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y gwasanaethau mabwysiadu wedi ymdopi’n eithaf da gydag effaith y sefyllfa argyfwng a’u bod yn gwella. Adolygwyd y cyllid ar gyfer y gwasanaeth mabwysiadu ac mae pob un o Awdurdodau Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer y gwasanaeth.Cadarnhaodd mai’r Cynghorydd Kevin Hughes yw cynrychiolydd y Cyngor ar y panel.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Healey.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.