Mater - cyfarfodydd

Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures

Cyfarfod: 03/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 17)

17 Dangosyddion Perfformiad Hanner Blwyddyn ar gyfer Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, Portffolio ac Adfer pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad ar gyfer perfformiad y gwasanaeth yn erbyn y dangosyddion perfformiad a osodwyd yn gynnar yn y cyfnod adrodd a phwysleisiodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol mewn sawl ffordd gan fod nifer o feysydd wedi cael eu cynnal.

 

   Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Cunningham, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y gwasanaethau mabwysiadu wedi ymdopi’n eithaf da gydag effaith y sefyllfa argyfwng a’u bod yn gwella.  Adolygwyd y cyllid ar gyfer y gwasanaeth mabwysiadu ac mae pob un o Awdurdodau Gogledd Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer y gwasanaeth.Cadarnhaodd mai’r Cynghorydd Kevin Hughes yw cynrychiolydd y Cyngor ar y panel.

 

Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.