Mater - cyfarfodydd
Mid-year Performance Indicators for Recovery, Portfolio and Public Accountability Measures
Cyfarfod: 10/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi (eitem 26)
Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i adolygu’r cynnydd o ran cyflawni’r gweithgareddau, y lefelau perfformiad a’r lefelau risg presennol fel y’u nodwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad perfformiad ganol blwyddyn ar Fesurau Adrodd 2020/21 yn dangos bod 69% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Ble gellid mesur perfformiad yn erbyn y llynedd bu tueddiad ar i lawr o 64% gyda 31% o fesurau’n well na pherfformiad y llynedd a 5% yn cynnal perfformiad sefydlog.
Adroddodd y Prif Swyddog ar y tri dangosydd perfformiad sy'n berthnasol i'r Pwyllgor sydd â statws RAG coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn y targed yn y portffolio Cynllunio, yr Amgylchedd ar Economi, fel y manylwyd ym mharagraff 1.05 o’r adroddiad.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 294 o'r adroddiad a'r mesur adrodd ar yr amser a gymerir ar gyfartaledd i gymryd camau gweithredu cadarnhaol lle dynodwyd toriad. Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd am ragor o wybodaeth rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad ar y data a ddarparwyd a chytunodd i gynnwys mwy o fanylion yn yr adroddiad nesaf i'r Pwyllgor. Mewn ymateb i sylwadau’r Aelodau am berfformiad perthnasol i gamau gorfodi dywedodd y Prif Weithredwr yr ystyrir yr awdurdod fel y gorau yng Ngogledd Cymru o ran cynllunio datblygiad economaidd a'i fod yn cael adborth cadarnhaol gan fusnesau. Eglurodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod yn caffael system newydd a fyddai'n gwella argaeledd gwybodaeth i'r cyhoedd ar achosion gorfodi a cheisiadau cyllunio. Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y ddogfen bolisi ar orfodaeth a chyfeiriodd at y pwerau a’r amserlenni cysylltiedig.
Talodd y Prif Weithredwr deyrnged i waith y gwasanaeth diogelu’r cyhoedd yn ystod y pandemig a soniodd am y cyfraniad a wnaeth o ran gorfodaeth, cyngor cefnogi busnesau, iechyd cyhoeddus a phrofi, olrhain a diogelu. Dywedodd fod ymroddiad gweithwyr a safon y gwaith i ddiwallu’r angen wedi bod eithriadol.
Adroddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) ar y ddau ddangosydd perfformiad a oedd yn dangos statws RAG Coch am y perfformiad presennol yn erbyn y targed, perthnasol i’r Pwyllgor, ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Stryd a Chludiant, fel y manylwyd ym mharagraff 1.05 o’r adroddiad.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Kevin Hughes.
Ymataliodd y Cynghorydd George Hardcastle rhag y bleidlais ar yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r dangosyddion perfformiad canol blwyddyn ar gyfer y Mesurau Adfer, Portffolio ac Atebolrwydd Cyhoeddus, i fonitro meysydd o danberfformiad.