Mater - cyfarfodydd
Aura: Business Recovery Plan
Cyfarfod: 17/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant (eitem 29)
Aura Cynllun Adfer Busnes
Rhoi adroddiad ar y Cynllun Parhad Busnes ar gyfer Aura.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2
- Gweddarllediad ar gyfer Aura Cynllun Adfer Busnes
Cofnodion:
Cafwyd cyflwyniad manwl gan Rheolwr Gyfarwyddwr Aura yn trafod y meysydd canlynol:-
· Cynllun Adfer:Cam 1
Ø Lleihau costau
· Cynllun Adfer:Cam 2
Ø Ailagor llyfrgelloedd
Ø Ailagor canolfannau hamdden
Ø Gweithwyr Aura
Ø Arolwg gweithwyr
Ø Paratoi ar gyfer y ‘Normal Newydd’
· Effaith ariannol Covid-19
Cafwyd canmoliaeth gan y Cynghorydd Dave Mackie am y modd y mae Aura wedi addasu yn ystod y sefyllfa o argyfwng ac roedd yn teimlo’n hyderus y byddai aelodau o’r cyhoedd yn teimlo’n ddiogel yn dychwelyd i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy pan fydd hynny’n bosibl, oherwydd y mesurau roedd yr holl staff yn eu cymryd i sicrhau eu diogelwch.
Gan ymateb i gwestiwn yn ymwneud â chost ailddatblygu Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr nad oedd y costau’n hysbys ar hyn o bryd. Nid oedd modd iddynt gael mynediad i’r safle gan ei fod yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty cymunedol.
Gan ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Tudor Jones, cytunodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai angen cefnogaeth ariannol ychwanegol parhaus gan Lywodraeth Cymru.
Fe awgrymodd y Cynghorydd Janet Axworthy y dylid anfon llythyr at gydweithwyr AURA gan y Cadeirydd ar ran y Pwyllgor, yn diolch iddynt am eu gwaith, eu hymroddiad a’u mentergarwch trwy gydol y sefyllfa o argyfwng. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Ian Smith.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi’r heriau masnachu a gweithredu roedd Covid-19 wedi’u cyflwyno a’r heriau a gyflwynwyd mewn cysylltiad â pharhau â’r lefel bresennol o gyflwyno gwasanaeth ar ôl mis Mawrth 2021; a
(b) Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu llythyr at gydweithwyr AURA ar ran y Pwyllgor, yn diolch iddynt am eu gwaith, eu hymroddiad a’u mentergarwch trwy gydol y sefyllfa o argyfwng.
AELODAU O’R WASG YN BRESENNOL
Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 2pm a daeth i ben am 4.12pm)
…………………………
Y Cadeirydd