Mater - cyfarfodydd
Anti-Social Behaviour Policy
Cyfarfod: 16/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau (eitem 25)
25 Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol PDF 109 KB
Pwrpas: Ystyried y polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a darparu sylwadau i’w hystyried ymhellach.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 - Draft Anti-Social Behaviour Policy, eitem 25 PDF 519 KB
- Enc. 2 - Case study, eitem 25 PDF 97 KB
- Gweddarllediad ar gyfer Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y Polisi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a oedd yn cyflawni gofyniad cyfreithiol y Ddeddf Tai 1996 ac a oedd wedi’i ddylunio i roi datganiad clir o’r ymagwedd y byddai Cyngor Sir y Fflint, fel landlord, yn ei gymryd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn cylch gwaith y Tîm Rheoli Tai.
Nod y polisi oedd ceisio sicrhau bod systemau effeithiol yn cael eu mabwysiadu i atal a lleihau nifer yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a’u datrys cyn gynted â phosibl drwy ymyriadau priodol ac amserol.
Dywedodd y Rheolwr Tai bod y Cyngor wedi gweithio gydag adrannau mewnol ac asiantaethau mewnol i gymryd unrhyw gamau gweithredu priodol ac esboniodd y byddai copi o’r polisi, ynghlwm yn Atodiad 1 o’r adroddiad, yn cynorthwyo Cynghorwyr â chyfeirio unrhyw broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol o fewn eu wardiau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y Prif Swyddog nad oedd y Cyngor yn gallu gweithredu ar achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a oedd yn digwydd mewn eiddo preifat gan fod hyn yn fater i’r Heddlu ond fe allai weithredu os oedd yr achosion yn effeithio ar denantiaid tai Cyngor cyfagos.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Kevin Rush.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.